
Fel Dingle Dell yr adnabuwyd yr ardal yma yn nyddiau cynnar ei hanes. Mae Llwybr Nant y Pandy yn rhedeg drwy lannerch coetir ar hyd nant, gan ddechrau yn y draphont ac yn gorffen yng nghanol tref Bae Colwyn ar y brif ffordd, Ffordd Abergele. Mae’r bont wladaidd yn croesi dros y nant i mewn i’r fynedfa’r hyn a oedd unwaith yn Ysgol Dinglewood.

“A short walk from the central pier…brings one to the celebrated Dingle, with its murmuring stream and shady trees” (Hotel and Apartment Housekeepers Association of Colwyn Bay c. 1930/40).
Gyferbyn a phen Nant y Pandy fe fu Café y Dingle, a sefydlwyd tua 1880. “The Café fascinates all patrons….who always recommend to their friends our prompt service and civility.”


