399-425 (od) Ffordd Abergele & 1 Ffordd y Dywysoges, Hen Golwyn

Mae hwn yn deras o adeiladau busnes sydd â llefydd preswyl uwch eu pennau. Mae’r teras yn dyddio o ddiwedd y 19eg ganrif ac yn adeiledd Rhestredig Gradd II. Er ei fod wedi ei adeiladu ychydig ar y tro, mae tebygrwydd yr adeiladau unigol o ran eu dyluniad yn amlwg wrth i chi edrych i fyny’r allt. Mae ganddyn nhw waliau o galchfaen lleol, a silffoedd ffenestr, linteri a llin-gyrsiau (sy’n cyd-fynd â silffoedd ffenestr y llawr cyntaf) tywodfaen. Mae gan y to llechi deils crib coch a simneiau o frics coch.

399-425 abergele road

Mae’r bondoi ‘grisiau brain’ yn neilltuol – yn dal uwchben y ffenestri lletaf ac yn llai uwchben y ffenestri culaf.

Ar un adeg roedd y ferandâ haearn yn ymestyn o un pen y teras i’r llall. Ewch i sefyll o dan y feranda er mwyn gwerthfawrogi ei ddyluniad a’i fanylion yn iawn; mae’r gwaith haearn ar gornel Ffordd Abergele a Ffordd y Dywysoges yn arbennig o gain.

Rhannwch y dudalen hon
Colwyn Bay Heritage Group