Ein Prosiectau
Teithiau Cerdded Hanesyddol
Rydym ni wedi datblygu taith gerdded o amgylch canol y dref ynghyd â chanllaw sy’n disgrifio hanes yr amryw adeiladau diddorol y dewch chi ar eu traws. Un o’r adeiladau y byddwn yn rhoi sylw iddo ydi Theatr Colwyn – theatr hynaf Prydain.
Rydym ni hefyd wedi creu canllaw clywedol i gyd-fynd â’r daith drwy weithio gyda phobl ifanc a henoed yr ardal. Gallwch lawrlwytho’r canllaw o’r wefan hon neu fynd i Lyfrgell Bae Colwyn i godi copi caled. Byddwn yn trefnu mwy o deithiau cerdded yn y dyfodol.
Pecyn Gweithgareddau Hanes i Blant
Rydym ni’n cydweithio ag Ysgol Pendolan ar hyn o bryd i ddatblygu pecyn o weithgareddau am hanes y dref. Bydd hwn yn cyd-fynd a’r Daith Gerdded Hanesyddol a’r Maes Llafur Cenedlaethol hefyd. Mi fedrwch chi lawrlwytho’r pecyn gweithgareddau drwy glicio fan hyn.
Capsiwl Amser
Rydym ni wedi gosod capsiwl amser yn Theatr Colwyn gyda chymorth disgyblion blwyddyn 11, 12 a 13 Ysgol Uwchradd Eirias. Bydd cyfle i rywun agor y capsiwl mewn hanner canrif a gweld yr erthyglau a roddwyd ynddo.
Atgofion Bro
Byddwn yn recordio straeon a hanesion personol to hŷn y gymuned ac yn eu cynnwys yn y llyfryn ac ar y wefan. Os oes gennych chi ddiddordeb mewn ymuno â’r grŵp cysylltwch â ni drwy ddefnyddio’r ffurflen gyswllt. Mae croeso mawr bob amser i unrhyw wirfoddolwyr newydd.