Mae’n bleser gan Grŵp Treftadaeth Bae Colwyn gydnabod y cymorth y mae wedi’i dderbyn gan nifer o sefydliadau, gan gynnwys Cymunedau yn Gyntaf, Bay Life+, Cronfa Dreftadaeth y Loteri Cymru, Theatr Colwyn, Cymdeithas Ddinesig Bae Colwyn a Chyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, yn arbennig drwy staff a chyfleusterau Llyfrgell Bae Colwyn.
Cronfa Dreftadaeth y Loteri
Hoffai Grŵp Treftadaeth Bae Colwyn gydnabod y grant a’r gefnogaeth a dderbyniwyd gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri, sydd wedi’i gwneud hi’n bosibl i’r grŵp redeg ei amrywiol brosiectau, gan gynnwys y wefan hon, mewn perthynas â hanes a threftadaeth y dref.
Manylion am ein sefydliadau partner
Llyfrgell Bae Colwyn
Adeiladwyd Llyfrgell Bae Colwyn yn 1905 ac mae’n un o lyfrgelloedd hynaf a mwyaf crand Sir Conwy. Adeiladwyd y llyfrgell trwy danysgrifiad lleol gyda chefnogaeth gan y dyngarwr Andrew Carnegie ac mae wedi bod yn rhan o fywyd y dref ers mwy na chanrif. Mae’n cadw oddeutu 42,000 o lyfrau a chanddi 21 o gyfrifiaduron sy’n cynnig cysylltiad am ddim â’r We a mynediad Di-wifr am ddim.
Gall y staff helpu gydag ymholiadau hanes lleol gan ddefnyddio’r casgliad eang o lyfrau, hanes lleol, erthyglau papur newydd a hen ffotograffau. Mae’r llyfrgell yn Bwynt Mynediad Archifau sy’n gadael i bobl weld y North Wales Weekly News (yn ôl i’r 1890au), cofrestri’r plwyf, mapiau arolwg ordnans a chyfeirlyfrau masnach ar gyfer yr ardal.
I ymchwilwyr Hanes Teuluoedd mae’r Llyfrgell yn gadael iddynt gysylltu am ddim i’r gwefannau Ancestry a Find My Past.
I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â’r Llyfrgell ar 01492 577510 neu gwelwch y manylion ar y we-dudalen isod.
Gwefan: www.conwy.gov.uk/library
Menter Treftadaeth Treflun Bae Colwyn
Mae Cynllun Etifeddiaeth Trefwedd Bae Colwyn yn rhaglen adfywio pum mlynedd a arweinir gan gadwraeth a ariennir gan Gronfa Dreftadaeth Y Loteri, Llywodraeth Cymru, Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy a Cadw. Nod rhaglen Cronfa Dreftadaeth y Loteri yw gwarchod ac adfywio ardaloedd cadwraeth sy’n dioddef dirywiad economaidd. Bydd y prosiect yn rhedeg rhwng 2012 – 2017 ac mae’n rhan o gyfres ehangach Bywyd y Bae o fentrau adfywio ar gyfer ardal a glan môr Bae Colwyn.
Gwefan: http://www.colwynbaythi.co.uk/cy/
Cymunedau yn Gyntaf
Mae’r rhannau o Wardiau Glyn a Rhiw Bae Colwyn o Barc Eirias i’r West End, wedi eu dynodi’n ardaloedd Cymunedau yn Gyntaf. Cymunedau yn Gyntaf yw rhaglen flaenllaw Llywodraeth Cymru i wella’r amodau byw ledled Cymru. Y nod yw gweithio gyda phobl leol i’w galluogi i chwarae rhan weithredol yn eu cymunedau.
Mae Partneriaeth Cymunedau yn Gyntaf wedi ei chreu o gynrychiolwyr y gymuned, y sector gwirfoddol, y sector busnes a mudiadau statudol. Maent yn gweithio gyda’r tîm Cymunedau yn Gyntaf i ddatblygu amrywiaeth o brosiectau lleol o dan amrywiol themâu o Iechyd a Lles i Addysg a Hyfforddiant. Os hoffech wybod rhagor, ewch i ymweld â Chymunedau yn Gyntaf yng Nghanolfan Bay Learning, 47 Ffordd Conwy, Bae Colwyn neu ffoniwch 01492 531996.
Baylife
Mae rhywbeth cyffrous yn digwydd ym Mae Colwyn.
Mae prosiect adfywio o’r enw Bay Life+ ar waith i weddnewid y dref. Ei nod yw datblygu’r dref yn fan gwych fel y gwyddom y gall fod. Mae gwaith wedi cychwyn yn barod a chyn hir byddwch yn gweld y prosiect yn dod at ei gilydd yn llwyddiannus iawn.
Bae Colwyn yw’r dref fwyaf ar arfordir Gogledd Cymru ac mae ganddi gymaint i’w gynnig yn barod – glan môr gwych, gwerthwyr annibynnol o safon uchel a nifer o atyniadau i dwristiaid a chanolfan hamdden fawr. Drwy ychwanegu at y rhain gallwn helpu i sicrhau bod dyfodol mwy llewyrchus gan Fae Colwyn.
Eich rhan chi yn Bay Life+
Mae Bay Life+ wedi dod â mwy na 30 o grwpiau cymunedol at ei gilydd yn barod, ynghyd â channoedd o fusnesau ac unigolion di-ri drwy ddigwyddiadau a diwrnodau ymgynghori niferus.
I gael rhagor o fanylion ac i weld cynllun mawr Bae Colwyn yn well, ewch i wefan Bay Life+ : www.conwy.gov.uk/baylife
Theatr Colwyn
Adeiladwyd Theatr Colwyn yn 1885 a dyma’r sinema weithredol hynaf ym Mhrydain. Hefyd hon yw theatr ddinesig hynaf Cymru a’r theatr weithredol hynaf yng Nghymru.
I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â’r theatr ar 01492 577888 neu gwelwch y wefan.
Gwefan: http://www.theatrcolwyn.co.uk
Cymdeithas Ddinesig Bae Colwyn
Mae’r Gymdeithas Ddinesig yn cadw golwg ar y dref ac yn ceisio amddiffyn treftadaeth naturiol ac adeiledig y dref. Mae’n ymghynghori ar geisiadau cynllunio yn ardal Bae Colwyn ac ymgyrchoedd ar gyfer diogelu treftadaeth adeiledig Bae Colwyn ac mae’n ceisio dylwanwadu ar farn pobl er mwyn sicrhau arferion cynllunio da.
Y wefan: www.colwynbaycivicsociety.co.uk