Bethesda, Eglwys y Methodistiaid Cymraeg, Ffordd Abergele, Hen Golwyn

Mae gan yr eglwys amlwg hon, sy’n debyg iawn o ran ei golwg i’r hyn oedd hi pan y codwyd hi, waliau calchfaen a tho llechi. Yn wahanol i fwyafrif addoldai’r pentref, nid tywodfaen a ddefnyddiwyd ar gyfer agoriadau’r drysau a’r ffenestri, y conglfeini, y parapet ac ati.

Mae’r talcen flaen gymesur, gyda’i bwâu crwn, colofnau a chapanau uwchben y drws a’r ffenestri, yn arbennig o luniaidd. Sylwch y corbeliaid grisiog sy’n creu cysgod amlwg uwchben y drysau ac o dan y bondo. Mae’r waliau ochr yn sylweddol fwy plaen ac yn cynnwys ffenestri codi sydd â phaneli cul atyniadol o gwmpas eu hymylon.

Yn amgylchynu’r ardd fechan mae waliau carreg lleol wedi eu capio gyda cherrig tywodfaen. Mae rheiliau isel ar ben y wal flaen a cherrig copa patrwm ceiliog ac iâr ar ben wal Ffordd Wellington. Sylwch ar y bythynod gweithwyr traddodiadol a deniadol ar Ffordd Wellington.

Rhannwch y dudalen hon
Colwyn Bay Heritage Group