Capel Bethlehem, Ffordd Lawson

Dechreuwyd y capel Methodistiaid yma yn 1897 fel cangen o Engedi, ond yn ddiweddarach yn yr un flwyddyn cafodd ei sefydlu fel capel ar wahân. Daeth yn amlwg yn fuan iawn bod y capel yn rhy fach, a maint yr adeilad yn dyblu yn 1899. Yn Ystadegau Comisiwn Eglwysi Cymru o Eglwysi Anghydffurfiol 1905 rhestrir Capel Bethlehem gyda 362 o ymlynwyr.

bethlehem chapel

Fe symudodd nifer fawr o bobl ifanc o gefn gwlad i Fae Colwyn i weithio ac ymaelodi ym Methlehem. Yn ystod y cyfnod cyn yr Ail Ryfel Byd bu i’r eglwys ffynnu.

Ychwanegwyd neuadd yn 1913 a chynhaliwyd perfformiadau gan grŵp drama’r capel ynghyd a chyngherddau ac eisteddfodau. Yn 1936 roedd y di-waith yn cael gwneud defnydd o’r neuadd ac yn 1939 cafodd hefyd ei defnyddio fel man cyfarfod ar gyfer plant a symudwyd o Lerpwl.

Ym 1964 gwerthwyd y neuadd i gwmni gwerthu ceir.

Mae Bethlehem wedi bod a 12 o weinidogion dros y blynyddoedd. Cyfeirir yn aml at weinidogaeth y Parchedig James Humphreys (1932-1937) fel y cyfnod euraid. Parchedig R.R. Williams, awdur emyn 853 yn y llyfr emynau Cymraeg “Caneuon Ffydd”, oedd y gweinidog rhwng 1925 a 1931, a’r Parchedig R.J. Davies, awdur emyn 788, oedd y gweinidog rhwng 1950 a 1977.

Dyfodol yr adeilad yw cael ei drosi’n sympathetig i dri th? teulu.

Pensaerniaeth

Mae Capel Bethlehem yn sefyll ar ochr orllewinol Ffordd Lawson, heb fod ymhell o’i chyffordd gyda Ffordd Abergele.

Yn gyffredin â nifer o gapeli ac eglwysi eraill ym Mae Colwyn, mae calchfaen lleol wedi cael ei ddefnyddio ar gyfer yr adeilad hwn. Mae defnydd dethol hefyd wedi cael ei wneud o dywodfaen ar gyfer y parapetau talcen, agoriadau drysau a ffenestri, atgyfnerthu capiau a’r cyntedd blaen. Mae’r to wedi’i orchuddio â llechi, gyda theils crib coch.

Bethlehem-date-stone

Prif nodwedd y capel yw’r talcen blaen cymesur eang gyda’i phum ffenestr ganolog golau uwchben y porth, gyda bwtresi naill ochr a’r llall. Mae’r dyddiad 1897 yn cael ei arddangos yn hy mewn plac carreg grwn. Mae’r ffenestr ganol o wydr lliw yn cynnwys y dyddiad 1897. Saif y porth blaen amlwg yn agos at y ffordd. O ddiddordeb arbennig yw’r lintel cerfiedig mân gyda’r enw “BETHLEHEM” yn arysgrifedig yn y garreg. Mae’r llythrennu, cerfio a marciau offeryn yn parhau i fod yn grimp ac yn glir.

Bethlehem-stonework

Mae bwâu bas uwchben y ffenestri yn helpu i ddosbarthu pwysau’r gwaith maen i ffwrdd oddiwrth pyst maliwn y ffenestri tywodfaen a’r transomes.

Mae wal galchfaen, ynghyd â meini copa ceiliog ac iâr, yn rhedeg ar hyd ffryntiad y ffordd.

Rhannwch y dudalen hon
Colwyn Bay Heritage Group