Agorwyd Engedi yn 1879 gan y Presbyteriaid Cymraeg a fu cyn hynny’n addoli efo’r Presbyteriaid Saesneg yn Ffordd Conwy mewn adeilad sydd bellach yn siop Matthews Hardware.

Roedd yr achos yn llwyddiannus ac fe dyfodd y gynulleidfa nes y bu idyn nhw, yn 1902, adeiladu eglwys genhadol ar Ffordd Rhiw, adeilad a gafodd ei adnabod fel Capel y Rhiw. Erbyn heddiw mae Capel y Rhiw yn Eglwys Bedyddwyr Saesneg Woodhill.
Ychydig o hanes Engedi sydd ar gael erbyn hyn, heblaw am y ffaith iddo fod yn addoldy cynulleidfa o Bentecostaliaid Elim yn ystod yr 1990au.

Mae o bellach wedi cau a’r perchennog newydd wedi cael caniatâd cynllunio i’w droi’n fflatiau.
Ar ôl bod ar gau ac wedi ei fyrddio am ryw 20 mlynedd, rhoddwyd caniatâd cynllunio i’w drawsnewid yn fflatiau. Gwnaed y gwaith gan y buddsoddwyr Gothic & Stone i gynlluniau GA Studio, cwmni penseiri o Fanceinion. Wedi’i gwblhau yn 2024, ailenwyd yr adeilad yn Trinity.
Pensaerniaeth
Mae Engedi’n gapel sylweddol, tal a thrawiadol sy’n sefyll ar ochr dde Ffordd Coetir Orllewinol.
Mae’r wal flaen gytbwys wedi ei hadeiladu o flociau sgwâr o galchfaen lleol gyda rhagfuriau talcen, ffenestr gron, tyllau ffenestr a drws, conglfeini a capiau bwtres o dywodfaen melyn.

Yn wahanol i rai o eglwysi a chapeli’r dref, does dim porth a chyntedd, dim ond mymryn o fargod gyda lle drws cymhedrol ei faint a drysau syml o fyrddau pren. Mae’r enw “ENGEDI” wedi ei gerfio’n gywrain i’r tywodfaen uwchben y drysau a’r dyddiad 1879 wedi ei gofnodi ar blac crwn.
Mae gan y capel do llechi eang, dau awyrdwll wedi eu capio ar y grib a dau awyrdwll dellt mewn bargodau ar ganol dwy ochr y to. Mae toeau llai talcennog ar bob ochr i’r wal flaen.
Yn werth ei sylwi ar y talcen blaen mae’r ffenestr pedairdeiliog crwn wedi ei hamgylchynnu gan wyth o ffenestri bychain crwn.

Mae ochrau’r capel yn symlach o lawer ac yn waith cerrig cymysg gyda dwy lefel o ffenestri wedi eu rhannu’n gilfachau gan fwtresi uchel.
Mae wal calchfaen â cherrig copa tywodfaen yn rhedeg ar hyd y terfyn ar ochr y ffordd, a phileri carreg a giatiau haearn wedi eu codi cyferbyn â drysau’r capel.

Yn union uwchben ac islaw gellir weld Capel Engedi ar ei newydd wedd, a elwir bellach yn Trinity ac wedi ei drawsnewid yn fflatiau (2024).

