Capel Salem (Antioch), Ffordd Abergele

Roedd achos yr Annibynwyr ym Mae Colwyn yn un a gynhaliwyd gan Gymry a Saeson.

Yn 1878 fe godwyd adeilad sinc gyda lle i 200 o addolwyr ar Ffordd Abergele lle mae honno’n croesi Ffordd Sea View. Yn y dechrau roedd y gwasanaethau’n ddwyieithog, ond fe gafwyd bod y trefniant hwnnw’n anfoddhaol, ac yn 1885 fe gododd y ddwy gynulleidfa addoldai iddyn nhw eu hunain.

Fe brynodd y gynulleidfa Saesneg safle’r capel sinc ac adeiladu arni’r adeilad sydd erbyn hyn yn dwyn yr enw The Union Church ac sydd bellach wedi cau.

Fe aeth y gynulleidfa Gymraeg ati i godi’r arian a oedd ei angen i adeiladu Capel Salem, a agorwyd ar Fedi’r 28ain 1885.

Yn 2001 fe ddechreuodd grŵp bychan o Fedyddwyr ddefnyddio’r adeilad ar y cyd â’r gynulleidfa Gymraeg a oedd yn mynd yn llai ac yn llai. Yna, gan nad oedd ond ychydig o aelodau fe ymunodd y Cymry ag Annibynwyr Hen Golwyn a mynd yno i addoli. Fe barhaodd y Bedyddwyr i ddefnyddio Salem ac yn 2004 fe brynson nhw’r adeilad.

Mae’r Bedyddwyr wedi gweithio’n galed i adfer cyflwr yr adeilad ac wedi ei ail-doi ac ailblastro’r tu allan. Mae’r tu mewn hefyd wedi ei wella, a system gwresogi a chegin newydd, swyddfa a thoiledau ychwanegol wedi eu gosod yno.

Mae seddi’r llawr wedi eu symud o’r capel, ond mae’r Set Fawr wedi ei chadw fel nodwedd i’w gosod yn ei lle neu ei symud o’r neilltu yn ôl yr angen.

Fe dynnwyd yr organ, ond fe adawyd ei phibellau yn eu lle.

Does yna’r un fedyddfa parhaol, ond gyda bod y Bedyddwyr yn arddel bedyddio drwy drochi, mae yno fedyddfa symudol.

Fe gyfeirir at yr adeilad o hyd fel Capel Salem ond mae’r gynulleidfa’n arddel yr enw Antioch ar gyfer eu heglwys.

Pensaerniaeth

Mae’r capel yn meddu ar gryn bresenoldeb ac yn sefyll ar ochr ddeheuol Ffordd Abergele rhwng Ffordd Douglas a Rhodfa Rhiw Bank.

Agorwyd y capel yn 1885 a’i addasu rhwng 1901 ac 1903 i gynllun Rowland Lloyd-Jones o Gaernarfon. Mae’r wal flaen sylweddol a thrawiadol wedi ei llunio yn y dull Neo-Glasurol o wenithfaen tywyll. Gwnaethpwyd defnydd helaeth o dywodfaen o gwmpas y ffenestri a’r drysau, y conglfeini, a’r bwa mawr canolog rhwng y colofnigau a rhagfuriau’r talcenni. Mae’r to’n do llechi.

Mae tair ffenestr fawr uwchben y drysau, a’r rheiny wedi eu gwahanu oddi wrth ei gilydd gan golofnau sgwâr â chapiau iddyn nhw. Ar bob ochr i’r wal flaen, sy’n cynnwys y prif ffenestri a’r bwa o dan y dalcen dalog, mae colofnigau gwenithfaen a thywodfaen â chapiau pigfaen. Sylwch ar y colofnigau llai ar yr ochrau.

Mae ffenestri bychain bwaog i’w cael ar waelod y waliau bob ochr i’r drysau, ac mae’r ffenestri dellt yn y tu blaen wedi eu gwydro â chwareli sgwar a rhwyllog.

Mae dau fynediad i’r capel, y ddau â drysau coch chwe-phanelog. Mae bwa hanner cylch amlwg i bob un a hwnnw wedi ei gynnal gan bedwar colofn crwn gyda phennau cerfiedig.

Mae waliau ochr y capel wedi eu plastro ac mae’r ffenestri’n ffenestri codi gyda gwydrau ymyl cul dymunol.

Sylwch ar nifer fawr y cerrig sylfaen – saith ar y chwith, un yn y canol rhwng y ddau fynediad a saith ar y dde.

Mae’r capel wedi ei osod yn ôl rywfaint oddi wrth y ffordd. Ar y terfyn blaen mae wal isel gyda phileri carreg a rheiliau a giatiau haearn addurnedig. Mae gan y ddau fynediad ei giatiau ei hun, ac mae giatiau i’w cael ar ochrau’r capel hefyd.

capel salem

Rhannwch y dudalen hon
Colwyn Bay Heritage Group