Y capel a safodd yn wreiddiol ar safle Capel y Rhos oedd Capel Hermon. Codwyd Hermon yn 1903 a’i gysegru yn 1904. Safodd y capel am dros 100 mlynedd cyn cael ei ddymchwel yn 2007 er mwyn codi’r adeilad modern presennol sy’n dwyn yr enw Capel y Rhos. Mabwysiadwyd yr enw newydd oherwydd bod y Capel newydd yn cymryd lle 3 o gapeli Presbyteraidd yr ardal: Capel Nazareth Mochdre, Capel Bethlehem yn Ffordd Lawson Bae Colwyn, a Hermon yma ar gyrion Llandrillo yn Rhos.
Bu’r Presbyteriaid yn ddylanwadol yn yr ardal ers diwedd y 18fed ganrif pan ddechreuwyyd cynnal gwasanaethau ym mentrefi’r ardal. Pan godwyd Hermon ar ddechrau’r 20fed ganrif roedd yr achos yn ffynnu, gyda 6 o gapeli ym Mae Colwyn a mwy eto yn y pentrefi cyfagos megis Mochdre a Llanelian.
Mae’r achos yn Llandrillo yn Rhos yn dyddio’n ôl i 1847, pan ddechreuwyd Ysgol Sul yma mewn bwthyn to gwellt o’r enw Aberhod Bach a oedd yn sefyll lle bellach mae Promenâd Cayley. Wrth i’r achos dyfu fe symudodd i adeiladau mwy, nes yn y diwedd fe adeiladwyd capel yn 1884 ar gyffordd Rhodfa Penrhyn a Phromenâd y Rhos lle mae’r caffi heddiw. Doedd y safle hwnnw, fodd bynnag, ddim yn un llwyddiannus iawn ac fe benderfynwyd symud i le mwy amlwg. Gwnaethpwyd elw ar werthiant yr hen safle, ac fe gafwyd y safle newydd presennol yn rhodd gan Syr George Cayley.
Adeiladwyd Hermon dan arweiniad y Gweinidog, y Parch Thomas Parry, a oedd hefyd yn adeiladwr llwyddiannus ac yn gyfaill i’r Major Birch, asiant George Cayley yng ngogledd Cymru. Pris ei godi, yn cynnwys cost yr organ, oedd £4,136, 6 swllt a 4 ceiniog. Pan gafodd Hermon ei ddymchwel yn 2007, fe achubwyd yr organ ac mae hi bellach ym Mwdapest, Hwngari.
Dros amser roedd maint ac anghenion cynulleidfaoedd yr ardal wedi newid ac felly fe godwyd y capel newydd modern i gymryd lle capeli Hermon, Nazareth a Bethlehem.
Mae lle i 120 yng nghapel Capel y Rhos, ac i 50 yn yr ystafell gyfarfod, sy’n sylweddol llai na Hermon a oedd â lle i 380. O’r herwydd roedd lle ar y safle i godi adeilad yn cynnwys 8 o fflatiau, ac mae’r adeilad hwn i’w weld ar un ochr y capel newydd.
Dyluniwyd yr adeilad newydd gan Tom Griffiths ac fe’i adeiladwyd gan gwmni Anwyl Construction. Wrth ddisgrifio’r adeilad newydd fe ddywedodd yr hanesydd lleol, Graham Roberts, “Mae Mr Griffiths wedi dangos bod mwy i bensaernïaeth na chreu tlysau i goffáu datblygwyr; bod ganddo bwrpas, sef cyfoethogi a dod ag urddas i fywydau pobl. Mae’r capel yn lle hyfryd, cynhesol: mae yno festri a neuadd ddarlithio helaeth, ac mae’r cyntedd yn lle croesawus, llawn golau, sydd ag un o ffenestri gwydr lliw gwreiddiol Capel Hermon yn ei wal allanol. Mae ffenestri’r cyntedd a’r capel ei hun yn ymestyn o’r llawr i’r nenfwd mewn modd hynod syml, ac yn dod â goleuni aruthrol i’r ddau le. Roedd Hermon yn gapel ar batrwm ei oes, yn syml a phwrpasol; mae Capel y Rhos hefyd yn gapel ar batrwm ei oes – yn onglau ac yn gorneli trawiadol ar y tu allan ond yn lle cynnes a chroesawus y tu mewn.”
Roedd yn dristwch colli’r hen gapel ond, i ddyfynnu Graham Roberts unwaith eto, “Mae o’n beth da gweld y gornel hon o Ffordd Llannerch a Rhodfa Brompton yn cael ei throi’n noddfa bywyd a gweddi, a bod y pensaer a henaduriaid Capel Hermon wedi gweld yn dda i roi adeilad i ni sy’n hawlio ei le yn y byd cyfoes ac a fydd, gobeithio, yn para o leiaf 100 mlynedd arall.”
Pensaerniaeth
Adeiladwyd Hermon, y capel gwreiddiol yn 1903. Roedd ei gynllun yn un trawiadol o frics coch llachar a tho teils coch. Roedd y tu mewn yn creu argraff hefyd ac wedi ei oleuo gan ffenestri gwydr lliw hardd.
Adeiladwyd y capel newydd, Capel y Rhos, yn y dull cyfoes yn 2007 gyda tho llechi, rhai o’i waliau â brics yn y golwg a’i waliau eraill wedi eu rendro.
Dim ond y waliau terfyn calchfaen sydd ar ôl bellach o’r hen gapel, ynghyd â’r hen fynediad sy’n arwain at y fflatiau.
Mae’r waliau wrth fynediad y capel newydd wedi eu hadeiladu i gydfynd yn grefftus â’r rhai gwreiddiol.
Gwybodaeth bellach: