
Terry Bond
Terry Bond has lived in the Colwyn Bay area since 1975. He has very fond memories of the Pier, Theatr…
Mae’r prosiect hwn yn fodd o ddiogelu hanes lleol, rhywbeth sy’n agos iawn at ein calonnau ni. Mae’n amhosib pwysleisio pa mor bwysig ydi casglu atgofion personol trigolion yr ardal rhag i’r wybodaeth honno lithro o gof a chadw a dod yn un o ‘hen bethau anghofiedig dynol ryw.’ Ein bwriad ydi cofnodi sut roedd trigolion y dref y byw yn ystod degawdau penodol. Gall trigolion presennol a chyn-drigolion y dref sôn wrthym ni am eu hanesion a phrofiadau Bydd hyn yn cydio’r gorffennol, y presennol a’r dyfodol yn ei gilydd yn un gadwyn ddi-dor.
Mae dogfennau swyddogol, llythyrau, papurau newydd, ffynonellau eilradd ac ati oll yn bwysig iawn ond mae clywed straeon ar lafar yr un mor bwysig er mwyn deall profiadau unigolion neu grwpiau o bobl. Hoffem glywed hanesion pobl a fu’n byw yma’n ystod Yr Ail Ryfel Byd yn enwedig ond mae gennym ni ddiddordeb mewn clywed hanesion pobl o’r holl ddegawdau. Mae gwerth i sylwadau pawb.
Ers y 1970au mae hanes llafar wedi dod yn fwyfwy poblogaidd gan esgor ar rywbeth y medrwn ni ei alw yn hanes cymunedau. Mae pobl yn edrych ar hanes mewn ffordd wahanol bellach, ac fe gaiff y pwnc ei ddysgu mewn ffordd wahanol yn ein hysgolion hefyd. Mae hanes ‘micro’ yn nodwedd bwysig o fywyd bob dydd pobl gyffredin. Erbyn heddiw mae pob agwedd ar hanes, hyd yn oed y math o hanes sy’n cael ei anwybyddu fel arfer (profiad y dosbarth gweithiol, hanesion merched neu hanes lleiafrifoedd ethnig) yn bwysig.
Dydi adrodd straeon ddim yn draddodiad newydd o bell ffordd. Yn yr hen oesoedd roedd pobl yn arfer adrodd ac ail-adrodd Chwedlau Celtaidd, Llên Gwerin, hwiangerddi a geiriau caneuon o genhedlaeth i genhedlaeth. Roedd hyn cyn yr amser lle roedd darllen ac ysgrifennu yn sgiliau cyffredin. Erbyn hyn mae adrodd straeon wedi dod yn boblogaidd unwaith eto. Ond mae’n rhaid i ni gymryd hoe ond bywydau prysur, ac eistedd i lawr a holi er mwyn i’r traddodiad o adrodd a chofio hanesion barhau. Efallai nad ydym ni’n meddwl bod ein straeon yn ddiddorol, ond fe fydd pobl yn y dyfodol. Fedrwn ni ddim adrodd ein straeon ar ôl i ni groesi’r bont beth bynnag! Mewn ffordd o siarad, mae unigolion yn llygad dystion, ac mae eu straeon yn dystiolaeth o ddigwyddiadau’r ardal.

Terry Bond has lived in the Colwyn Bay area since 1975. He has very fond memories of the Pier, Theatr…

Yn awdur toreithiog a hanesydd lleol, cyhoeddodd Cindy Lowe nofel yn seiliedig ar ei magwraeth ym Mae Colwyn ychydig ar…

A chance meeting on the tram brought her Mother's friend, a civil servant from the Ministry of Food tea department, to lodge at their house.

Anne Windebank's family moved to Colwyn Bay when she was 6 years old, following her grandparents who had moved to the town previously.

Aline Davies was born in Colwyn Bay. Her family had moved to the town in the 1920s when her grandfather was unwell.

Mildred Nelson was born in Colwyn Bay and has lived in the town for most of her life.

Mae’r eLyfr yma wedi ei gyhoeddi yn Saesneg: During the Forties Festival weekend in April 2015 Heritage Group member Cindy…

Bu Harry Parker yn ddisgybl yn Ysgol Ramadeg Bae Colwyn. Ymunodd â’r fyddin diriogaethol ym 1939.

Joan, one of four daughters, grew up on Lawson Road Colwyn Bay. She won a scholarship and attended the Grammar school during wartime.

Anne Jones was born in Tan Lan, Old Colwyn, and has lived in the area all her life. First attending…

John Meerwald was born in Colwyn Bay, his father died when he was four years old. When the war started…

Helen Jackson has lived in Colwyn Bay all her life. Her earliest memory is of horse riding when she was about 3 years old.

Mae aelodau o'r grŵp a gwirfoddolwyr o bob oedran wedi bod yn brysur yn cofnodi atgofion pobl o Fae Colwyn.

The audio files for the Colwyn Bay Town Centre Walk.