Am Grŵp Treftadaeth Bae Colwyn

Ni yw Grŵp Treftadaeth Bae Colwyn. Ein nod yw gwneud treftadaeth a hanes ardal Bae Colwyn yn hygyrch ac yn fwy adnabyddus ymhlith y rhai sy’n byw yma neu sydd â diddordeb mewn deall mwy am y dref.

Rydym wedi cyhoeddi nifer o lyfrynnau yn annog teithiau cerdded treftadaeth o amgylch yr ardal ac wedi gwneud defnydd o’r dechnoleg ddiweddaraf i ddatblygu diddordeb rhwng cenedlaethau ac wedi casglu archif gynhwysfawr o atgofion pobl o ddigwyddiadau a gweithgareddau yn yr ardal.

Rydym eisoes wedi cynhyrchu pecyn gweithgaredd ar dreftadaeth y dref i ysgolion ac wedi hwyluso ystod o drafodaethau treftadaeth rhwng cenedlaethau.

Rydym wedi datblygu gwefan sy’n hygyrch ac sy’n rhoi darlun cynhwysfawr a gwybodaeth fanwl am dreftadaeth a hanes yr ardal. Gellir ei lawr lwytho i amrywiaeth o wahanol ddyfeisiau digidol.

Rydym hefyd yn cynnwys Llinell Amser Bae Colwyn. Edrychwch arno i weld datblygiad hynod ddiddorol ardal Bae Colwyn dros amser.

Yn y blynyddoedd diwethaf mae’r grŵp treftadaeth wedi cyfrannu at y fenter Dychmygwch Fae Colwyn a’r Imagine Digital Colwyn Trail, sydd ar gael yma.

Rydym hefyd wedi cymryd cyfrifoldeb am y trafodaethau hanes lleol chwarterol Ddoe a Heddiw, gan weithio mewn partneriaeth ag eraill i hyrwyddo arddangosfeydd, a threfnu a goruchwylio teithiau tywys lleol rheolaidd.

Gobeithiwn y byddwch yn mwynhau’r profiad pori newydd ac y bydd yn eich annog i archwilio mwy am Fae Colwyn a’r hyn sydd gan y dref i’w gynnig, nid yn unig yn y gorffennol ond heddiw.

Os hoffech gysylltu â’r Grŵp Treftadaeth i roi sylwadau ar y wefan neu i ychwanegu atgof i’r archif hanes llafar gallwch ymweld â’n tudalen gyswllt, neu gallwch gyfrannu at y trafodaethau parhaus ar dudalen Facebook Grŵp Treftadaeth Bae Colwyn.

Ymwadiad

Ein brosiectau

Teithiau Cerdded Treftadaeth

Rydym wedi datblygu taith gerdded o amgylch canol y dref yn ogystal â llyfryn llawn gwybodaeth a fydd yn ganllaw i’r adeiladau diddorol niferus ym Mae Colwyn, gan gynnwys Theatr Colwyn, sef y Theatr hynaf yn y DU.

Gan weithio gyda Tape Community Music and Film a phobl leol o bob oed rydym hefyd wedi cynhyrchu cyfeiliant sain i’r Daith Gerdded Treftadaeth. Mae hwn ar gael i’w lawr lwytho o’r wefan hon. Mae’r grŵp yn gobeithio datblygu mwy o deithiau cerdded yn y dyfodol.

Mae taith gerdded hefyd ar gael yn seiliedig ar eglwysi a chapeli’r dref.

Mae’r Grŵp Treftadaeth hefyd wedi gweithio gyda Chymdeithas Preswylwyr Hen Golwyn (Dwyrain) i gynhyrchu Taith Gerdded Treftadaeth Hen Golwyn.

Rydym hefyd wedi ailgyhoeddi fersiwn wedi’i diweddaru o lyfryn Taith Gerdded Treftadaeth Llandrillo-yn-Rhos, gydag arian yn cael ei ddyfarnu drwy brosiect Dychmygu Bae Colwyn.

Pecyn Gweithgareddau Hanes i Blant

Rydym wedi gweithio gydag Ysgol Nant y Groes Bae Colwyn i ddatblygu pecyn gweithgaredd hanes lleol sy’n cysylltu â’r Daith Gerdded Treftadaeth a’r Cwricwlwm Cenedlaethol.

Capsiwl Amser

Datblygodd y prosiect capsiwl amser o syniad oedd gan rai pobl ifanc ar ôl iddynt weithio ar y llwybr sain. Rydym wedi gosod capsiwl amser sy’n cynnwys erthyglau ac eitemau o’r presennol yn Theatr Colwyn a adnewyddwyd yn ddiweddar. Bydd y capsiwl yn cael ei agor ymhen 50 mlynedd.

Atgofion wedi’u recordio

Rydym yn cofnodi straeon personol a hanes aelodau hŷn y gymuned, a fydd ar gael ar ffurf elyfr ac ar y Wefan.

Os oes gennych ddiddordeb mewn dod yn aelod o’r grŵp cysylltwch â ni drwy ein ffurflen gysylltu. Rydym bob amser yn hapus i groesawu mwy o wirfoddolwyr.

Colwyn Bay Heritage Group