
Adeiladwyd yr hen gerbyty a’r tŵr yng ngerddi Tan y Coed gan Charles Woodall ar ddechrau’r 1890au.
Mae ochr chwith y Cerbyty’n cynnwys dau lawr ac wedi ei adeiladu o galchfaen gyda thywodfaen ar gyfer manylion megis y silffoedd ffenestr, linteri, pyst ffenestr a rhannau o’r talcen. Ar hyd crib y to llechi mae teils crib creuog o glai coch. Sylwch hefyd y grisiau (grisiau brain) ar hyd pen y talcen a’r wal ochr, a’r topwaith siâp pêl ar ben bob un. Mae’r dyddiad 1893 i’w weld ar y talcen mwyaf gogleddol.
Yn yr 1920au, fe fu i’r Cyngor gynnig y Plasdy i’r gŵr lleol a chwaraewr pêl droed rhyngwladol Cymreig, Johnny Neal, ar yr amod ei fod yn agor gardd de yno. Bu ei wraig yn rhedeg academi ddawns yn y Plasdy am dros 40 mlynedd a bu ei disgyblion yn cyflwyno perfformiadau dawns i’r cyhoedd. Symudodd y teulu o Dan y Coed ar ddiwedd y 1960au ac yng nghanol yr 1970au fe ddymchwelwyd y Plasdy.
Roedd milwyr o’r Unol Daleithiau’n lletya yn Nhan y Coed yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Mae’n debyg eu bod wedi ymarfer martsio ar y lawnt a mynd i Barc Min y Don i ddysgu sut i dyllu ffosydd.
