Rhwng 1907 ac 1956 roedd tramiau’n teithio o Landudno i Fae Colwyn ar hyd Ffordd Conwy gan fynd i Hen Golwyn hefyd o 1915.
Ond yn 1930 roedd y dramffordd yn gorffen yn Ffordd Greenfield, a chyda bysiau deulawr yn dod yn fwyfwy poblogaidd yn y 1950au, daeth oes y tram i ben. Gadawodd y tram olaf o Landudno i Fae Colwyn ar Fawrth y 24ain 1956. Yn 1961 gwerthodd y cwmni tram eu trwydded gludiant i gwmni Gwasanaethau Moduron Crosville Cyf.