Adeiladodd y Methodistiaid Cymraeg Gapel ar y safle yn Ffordd Conwy yn 1873 ar gost o £700. Y Gweinidog cyntaf oedd y Parchedig E. W. Evans, M.A., o Tarvin. Cynulleidfa fechan oedd ar y pryd. Fodd bynnag, maes o law bu’r capel hefyd yn cael ei ddefnyddio ac wedyn yn eiddo i’r Presbyteriaid Saesneg.
Gellir gweld rhan o’r capel ar y dde yn y llun yma.
O Ffordd Conwy nid oes tystiolaeth o gyn presenoldeb y Capel yn awr. Ond os ewch i gefn yr adeilad ac i mewn i’r lôn gefn sy’n uno Ffordd Penrhyn a Ffordd yr Orsaf, mae olion wal garreg galch gefn y Capel i’w gweld o hyd.
Gweddillion wal calchfaen yr Eglwys Bresbyteraidd gynnar.
Yn 1879 symudodd y Methodistiaid Cymraeg o’r capel i Gapel Engedi, oedd newydd ei adeiladu yn Ffordd Coetir Orllewinol. Bu’r adeilad yma yn parhau i gael ei ddefnyddio gan y Presbyteriaid Saesneg tan iddynt werthu’r safle yn 1890 am £1,800. Yna cafodd yr adeilad ei drawsnewid yn stablau a swyddfa docynnau. Pan gyrhaeddodd oes y car cafodd yr adeilad ei newid i Sinema’r Cosy, mae llawer o bobl leol yn dal i’w gofio. Wrth fynd i mewn i’r sinema roedd y gynulleidfa yn eich wynebu chi a’r sgrin oedd ar y wal uwch eich pen. Roedd rhaid adeiladu estyniad brics yng nghefn yr adeilad i fod yn gartref i’r offer taflunio. Gellir gweld yr estyniad hwn hyd heddiw.
Uwchben y fynedfa o Ffordd Conwy roedd pen blaen cwch wedi’i folltio.
Oherwydd maint bychan yr awditoriwm, yn y pen draw daeth y busnes yn aneconomaidd ac fe gafodd y safle ei droi yn siop mwy neu lai fel y gwelwch heddiw.
Ffynonellau:
Cylchgrawn “Colwyn Bay Civic Society” – Hydref 1989
