Pleser yw gallu rhannu newyddion am drydydd aduniad o gyn-ddisgyblion Ysgol Eirias, Ysgol Pendorlan a’r Ysgol Ramadeg gynt, sy’n cael ei drefnu yn y Clwb Criced ar Fedi 25ain, 2019. E-bostiwch Mair Jones am fanylion – mairolwen@icloud.com.
Mae’r trydydd aduniad yma’n dilyn dau aduniad llwyddiannus iawn, y cyntaf ar Dachwedd 1af, 2017. Daeth cyn-ddisgyblion o Ysgol Eirias ,gynt o Phendorlan a ‘r Ysgol Ramadeg, ynghyd i ddathlu ar ôl 50 mlynedd .Hanner ganrif ers gadael yr ysgol i ledaenu dros y byd mor bell ag Awstralia, De Affrica a Chanada. Mae’r blynyddoedd wedi diflannu lawer rhy gyflym ers dyddiau ysgol , meddai rhai! Cofwyd lawer o ffrindiau absennol ar y diwrnod.
Am ddiwrnod arbennig! Ar ôl taith o gwmpas yr ysgol yn y bore, a thynnu lluniau o dan yr hen goeden ceirios aethon nhw i Venue Cymru ble roedd chwaneg o’i gyfoedion yn aros i’w croesawu nhw i luniau, sioe sleidiau, ambell i araith a bwffe blasus.
Arddangoswyd hen luniau ysgol ar waliau o gwmpas yr ystafell i oohs ag aahs o ddifyrrwch ac fe atgynhyrchwyd y lluniau mewn albwm i brynu, yr elw i’r Sefydliad Derw.
105 cyn-ddisgyblion oedd yn bresennol yn yr aduniad ag yn ôl bob sôn mwynhawyd y diwrnod.
Bu cyfnewid helaeth o atgofion ac o brofiadau ysgol ym Mae Colwyn yn y chwedegau, amser cyffroes i dyfu i fynnu mewn tref drawiadol a phoblogaidd!
Dathlwyd yr aduniad trwy blannu coeden Griafol o flaen yr hen Ysgol Ramadeg.
Prynodd Ysgol Eirias ddau radio symudol ar gyfer y clwb drama gyda’r arian.
Bu ail aduniad ym mis Medi 2018 yng Nghlwb Criced Llandrillo-yn-Rhos, 95 oedd yn bresennol. Mae trydydd aduniad wedi’i drefnu ar gyfer Medi 25ain, 2019.