Gan weithio gyda Chymunedau Oed Gyfeillgar Conwy, Tape a Llyfrgell Bae Colwyn, mae’n bleser gan Grŵp Treftadaeth Bae Colwyn ychwanegu Llwybr Treftadaeth Ymateb Cyflym (QR) Parc Eirias i’r teithiau cerdded sydd ar gael yn awr o’r wefan hon. Mae’n daith gerdded hawdd, sef taith gylchol o ddwy filltir o amgylch Parc Eirias yn archwilio hanes y parc. Gallwch ddilyn y Llwybr gan defnyddio’r mannau Ymateb Cyflym i ganfod agweddau hyfryd ac annisgwyl o dreftadaeth y parc, gan gynnwys sŵ, llyn gychod, deinosoriaid, pypedau a chylch gerrig yr orsedd. Mae’r mannau ymateb cyflym (fel y gwelwch yma) yn marcio 20 lleoliad o amgylch y parc a’r ardal leol. Gyda phob cam gallwch ganfod hanes cudd a gweld ffotograffau. Cewch weld gwybodaeth ar bob pwynt drwy sganio’r man ymateb cyflym gyda ffôn clyfar. Mae map ar gael o’r llwybr o amgylch y parc ar y ddolen hon: Map Llwybr Treftadaeth Parc Eirias
Angen cymorth technegol?
Byddwch angen ap darllenydd cod bar Ymateb Cyflym ar eich ffôn clyfar. Os nad oes gennych un yn barod ewch i dudalen ap eich ffôn i ganfod y fersiwn sy’n addas i’ch ffôn arbennig chi. I agor y map sydd ar fformat PDF byddwch angen cael yr ap Adobe Reader ar eich ffôn. Eto, os nad oes gennych un yn barod, ewch i dudalen ap eich ffôn i ganfod y fersiwn sy’n addas i’ch ffôn arbennig chi.