Pan roedd Bae Colwyn yn ddim ond pentref a gorsaf reilffordd roedd materion yr ardal o dan reolaeth Conwy fel rhan o Ddosbarth Gwledig Conwy. Erbyn 1887 roedd Bae Colwyn wedi datblygu digon i gyfiawnhau rhoi iddi ei llywodraeth leol ei hun.
Bu ganddi Fwrdd Lleol o 1887-95 ac yn ystod y cyfnod yma bu gwaith adeiladu sylweddol. Yn dilyn diddymiad y Bwrdd daeth Bae Colwyn a Cholwyn yn Ddosbarth Trefol. Roedd cyfarfodydd y Bwrdd Lleol mewn adeilad lle mae’r is-orsaf drydan heddiw. Roedd yr adeilad hefyd yn gartref i’r Orsaf Heddlu leol ac injan dân fechan a gai ei thynnu gan geffylau.
Cyn gwladoli trydan a sefydlu’r Grid Cenedlaethol roedd yn rhaid i bob cyngor lleol gynhyrchu ei drydan ei hun ar gyfer goleuadau stryd ac at ddefnydd preifat. O gwmpas 1899 roedd “Gwaith Trydan y Cyngor” yn yr adeilad yma. Roedd y Gwaith yn cyflenwi trydan i’r promenâd, ac yna i ddefnyddwyr preifat. Yn ôl y sôn y defnyddiwr preifat cyntaf oedd Gwesty’r Metropole o gwmpas 1901.