Mae Eglwys Bresbyteraidd Saesneg Ffordd Hawarden wedi ei lleoli ar gyffordd Ffordd Hawarden â Ffordd Conwy. Fe’i hagorwyd hi ar Ionawr yr 11eg 1891 gan Brifathro’r Coleg Diwynyddol yn Aberystwyth, Thomas Charles Edwards D.D. Roedd y capel yn llawn ar y diwrnod ac yn cynnwys aelodau nifer o gapeli ac eglwysi eraill yr ardal. Roedd y gynulleidfa wedi symud i’r adeilad newydd hwn ar ôl gwerthu gwerthu’r hen adeilad, a oedd hefyd ar Ffordd Conwy, cyferbyn â gwaelod Ffordd Woodland Orllewinol. Roedden nhw wedi bod yn rhannu’r hen adeilad gyda’r gynulleidfa Gymraeg hyd nes yr agorwyd capel Engedi, sydd hefyd ar Ffordd Woodland Orllewinol. Fe dderbyniodd yr eglwys Saesneg gynnig o £1,800 am yr hen adeilad a bu’n cyfarfod drwy gydol 1890 yn Neuadd y Dref nes bod yr adeilad newydd ar ei draed. Fe gostiodd yr adeilad newydd £3,700 i’w adeiladu a chafwyd rhodd tuag £1,300 at y gost oddi wrth deulu Davies Bodlondeb, Bangor. Ychwanegwyd organ yn 1896 ar gost o £595. Fe gynhailwyd bazaar i godi arian a rhwng hwnnw a’r rhoddion oddi wrth yr aelodau fe godwyd £550. Fe etholwyd y Blaenoriaid cyntaf yn 1898 a rhai pellach yn 1905.
Ym mis Medi 1908 fe gynhaliwyd cynhadledd ‘Connexion’ y Presbyteriaid Saesneg yn yr eglwys, a chefnogwyd y digwydiad gan gapeli Presbyteraidd Cymraeg y dref. Pan ddaeth y Parch Alun Lewis M.A. yn weinidog ar yr eglwys yn 1933 fe ffurfiwyd llawer o grwpiau gweithgaredd newydd: Urdd Chwiorydd, Cylch yr Aelwyd, Gobeithlu, Cymdeithas Ddrama ac Urdd Addolwyr Ifanc. Yn 1946 roedd gan yr eglwys dros 200 o aelodau.
Gweinidogion
1887-1914 Y Parch. John Edwards 1915-1927 Y Parch. J. H. Howard, M.A., D.D. 1927-1932 Y Parch. Sydney O. Morgan, B.A., B.D. 1932-1940 Y Parch. Alun Lewis, M.A. 1941-1947 Y Parch. Ddr. J. H. Howard, M.A. 1948-1974 Y Parch. G. Llewelyn Griffiths, M.A., B.D. Rhwng 1975 ac 1978 roedd yr eglwys heb weinidog. 1978-1986 Y Parch. Raymond Webb, T.D., B.Th. 1986-1989 Y Parch. W. O. Jones, C.F.
Pensaerniaeth
Mae’r eglwys hynod a diddorol hon yn sefyll ar y gornel lle mae Ffordd Hawarden yn cyfarfod â Ffordd Conwy. Mae hi’n un o nifer o addoldai brics coch yn y dref ac wedi ei gynllunio gan y pensaer A.W. Smith o Fanceinion. Mae’r to yn do teils coch gyda theils crib coch. Cofiwch sylwi ar y rhesi o deils wedi eu siapio a’r creadur o fyd chwedlau ar grib yr aden orllewinol. Mae’r waliau wedi eu codi o frics coch ac mae defnydd helaeth wedi ei wneud o derracotta, er enghraifft, o gwmpas y drysau a’r ffenestri, ar gyfer talcenni’r rhagfuriau a’r croesau ar grib y prif adeilad, ac yn y meindwr tal, lluniaidd. Mae corff yr adeilad yn sefyll ar linell gogledd-de ac mae ale groes yn y pen gogleddol. Mae i’r adeilad llawer o nodweddion diddorol. Sylwch, er enghraifft, y t?r wythochrog a’r meindwr â’i ffenestri, y pyrth agored ar yr ochrau dwyreiniol a gorllewinol, a’r ffenestr fawr yn yr ale groes. O edrych yn fwy manwl, fe allwch weld nodweddion difyr megis y rhesi o deils blodeuog a phatrwm fleur de lys ar y wal ddeheuol sydd yn wynebu Ffordd Conwy. Mae gwydr y ffenestri’n gymsgedd swynol o gwareli bach mewn dellt plwm a gwydr lliw. Ar derfynau tir yr adeilad mae’r giatiau i Ffordd Conwy a Ffordd Hawarden yn rhai haearn addurnol gyda physt cynnal anghyffredin, hefyd o haearn.
Ym mis Tachwedd 2014 cafodd adeilad yr Eglwys Bresbyteraidd Saesneg ei roi ar werth.
Ffynonellau: English Presbyterian Church, Colwyn Bay 1891-1991 T. H. Parry a T. M. Jones Hanes Dechreuad a Chynydd y Methodistiaid Calfinaidd yn Ngholwyn Bay a’r Cylch Cyfarfod Dosbarth Bae Colwyn: 1909.