Y Nant / Fairy Glen (Llwybr Treftadaeth Hen Golwyn)

Mae’r llwybr dwyreiniol ar hyd y Nant yn dilyn Afon Conwy, a bu i’r teithiwr Edward Llwyd gyfeirio at y lle yn 1699. Dywedodd bod yma saith o ffynhonau a’i fod yn lle hynod goediog.

Yn wir mae olion yma heddiw o goedwig hynafol. Mae’r llwybr hefyd i’w weld ar Fap Degwm Llysfaen 1839 ac erbyn hyn yn rhan o Lwybr Arfordir Gogledd Cymru.

Yn 1903 fe gyflwynwyd y Nant yn rhodd i’r Cyngor gan Stad Cefn Meiriadog, a daeth yn lle poblogaidd i’r bobl leol a thwristiaid. Cafodd ei adfer yn 1998 ac mae bellach yn Warchodfa Natur. Mae coed derw a sycamorwydden i’w cael ymhobman yma ac mae’n lle delfrydol ar gyfer gwahanol fathau o redyn.

Find out more: Conwy CBC: Fairy Glen Local Nature Reserve Leaflet

Rhannwch y dudalen hon
Colwyn Bay Heritage Group