Colwyn Bay Heritage

  • English
  • Cymraeg
Cartref
Cefndir
Cydnabyddiaeth
Teithiau
Newyddion
Hanes a Threftadaeth
Pensaernïaeth
Ieuenctid
Y Silff Lyfrau
Linciau
Busnes
Eglwysi
Bae Colwyn
Pobl y Bae
Addysg
Parc Eirias
Eisteddfod
Adloniant
Y Weinyddiaeth Fwyd
Hen Golwyn
Mannau Agored
Hanes Llafar
Pier a'r Pafiliwn
Heddlu
Llandrillo yn Rhos
Siopau
Chwaraeon
Theatr
Twristiaeth
Nodweddion y Dref
Cludiant
Y Gymraeg
Y Rhyfel Byd
Hanes Llafar
Oriel
Llinell Amser
Cysylltu
Menu
Colwyn Bay Heritage > Eglwysi > Safle Hen Gapel Coleg Penrhos

Safle Hen Gapel Coleg Penrhos

Mae yna stad dai newydd ar Ffordd Llannerch uwchben y Promenâd a oedd ar un adeg yn safle’r ysgol breifat Penrhos College for Girls hyd nes iddi uno gydag ysgol breifat arall y dref, Rydal School for Boys, yn 1995. Daeth gweithgaredd Penrhos i ben ar y safle hwn yn 1999. 

Sefydlwyd ysgol Penrhos fel ysgol breifat Fethodistaidd i ferched yn 1880. Un o’r sefydlwyr oedd y Parch. Frederick Payne, a oedd hefyd yn gyfrifol am sefydlu Eglwys Fethodistaidd St John’s ac a oedd yn un o sefydlwyr ysgol Rydal, ysgol breifat Fethodistaidd i fechgyn. Roedd yr Eglwys Fethodistaidd yn gryf ym Mae Colwyn yn ystod Oes Fictoria ac erbyn 1950 roedd ei gwahanol sefydliadau yn y dref yn berchnogion llawer iawn o’i thir a’i heiddo ac wedi cael dylanwad mawr ar ei threftadaeth bensaernïol.

Ar y dechrau roedd merched Penrhos College yn mynd i addoli, ddwywaith bob Sul ac hefyd ar nos Fercher, yn eglwys Fethodistaidd St John’s. Roedd bechgyn ysgol Rydal yn mynychu yn yr un modd, ond yn dod i’r capel ac yn ymadael drwy giât wahanol i’r merched. Y bwriad, wrth gwrs, oedd sicrhau na fyddai’r bobl ifanc hyn yn cyfarfod â’i gilydd. Fe wyddwn ni hyn oherwydd cofnod o lythyr cwyn a anfonwyd at brifathro ysgol Rydal gan brifathrawes ysgol Penrhos yn cwyno bod y bechgyn, un dydd Sul, wedi dod i mewn drwy’r giât anghywir. Yn anffodus i ni, does dim cofnod o ateb prifathro ysgol Rydal!

Wrth i ysgol Penrhos dyfu, fodd bynnag, fe dyfodd yn rhy fawr i gapel St John’s, ac felly yn 1925 fe adeiladwyd capel newydd pwrpasol ar safle’r ysgol. Yn anffodus fe ddymchwelwyd y capel adeg dymchwel gweddill yr ysgol er mwyn gwneud lle i’r stad tai newydd.   

Roedd ffenestri gwydr lliw yr hen gapel yn werth eu gweld, ac yn ffodus wedi eu harbed a’u symud i brif adeilad ysgol Rydal, sef ysgol Rydal Penrhos erbyn hyn. Wedi eu trin a’u hadfer gan arbenigwr, fe’u gosodwyd yno mewn fframiau a’u goleuo o’r cefn fel y byddai eu manylion i’w gweld yn llawer cliriach na phan oedden nhw’n cyflawni eu swyddogaeth fel ffenestri; mae’r canlyniad yn achos ambell un yn drawiadol. Mae sawl arddull i’w weld yn narlunwaith y ffenestri, yn amrywio o’r canoloesol i’r cymharol gyfoes. Efallai’r mwyaf trawiadol o’r rhai modern haniaethol ydi ffenestr Kronberger sy’n coffáu gwaith un o wyddonwyr atomig enwocaf ei oes. Noddwyd y ffenestr gan ferched Hans Kronberger a oedd yn ddisgyblion yn ysgol Penrhos. Amcan dyluniad y ffenestr ydi cyfleu gwaith y gwyddonydd yn datblygu ynni niwclear i bwrpasau heddychlon. Ym mhen arall yr ystod hanesyddol mae ffenestr o ddiwedd yr oesoedd canol a achubwyd o gapel gwesty’r Savoy yn Llundain. Fe fomiwyd y gwesty yn ystod yr Ail Ryfel Byd ond fe oroesodd y ffenestr a chafodd ei chynnig i ysgol Penrhos. 

Mae mwy o fanylion yngylch hanes yr ysgol i’w cael ar y panel coffaol sydd wrth fynediad y llwybr troed ar Ffordd Llannerch.

Gellir weld lluniau ardderchog o’r ffenestri gwydr lliw gan John Lawson Reay yma.

(Ddim i gael eu hatgynhyrchu’n fasnachol heb ei ganiatâd).

Related Posts

  • Yr Hen Synagog, Rhodfa’r TywysogYr Hen Synagog, Rhodfa’r Tywysog
  • Ysgol Bod Alaw 1950-2000Ysgol Bod Alaw 1950-2000
  • Llwybr Treftadaeth Eglwysi a ChapeliLlwybr Treftadaeth Eglwysi a Chapeli

Filed Under: Eglwysi, Addysg, Pensaernïaeth

Cefndir

Ein Prosiectau Teithiau Cerdded Hanesyddol Rydym ni wedi datblygu taith gerdded o amgylch canol y dref ynghyd â chanllaw sy’n disgrifio hanes yr amryw adeiladau diddorol y dewch chi ar eu traws. Un … Darllen Mwy

Topigau

Y Pyst Diweddaraf

  • 7 Abergele Road (former Longmans bookstore)
  • Taith Gerdded Treftadaeth Llandrillo-yn-Rhos
  • Y Gorffennol a Nawr 2020: Sesiynau Treftadaeth Bae Colwyn
  • Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol 2020
  • Aduniad Ysgol Eirias – Medi 25ain, 2019

Tudalennau

  • Cartref
  • Newyddion
  • Linciau
  • Cysylltu

Facebook

Cyfreithiol

  • Polisi Preifatrwydd
  • Amodau a Thelerau
Colwyn Bay Heritage Online

Copyright © 2022 Colwyn Bay Heritage Online. All rights reserved.

Colony of Ants Web Design and Development