Codwyd yr adeiladau ar safle Neuadd y Dref. Agorwyd yr adeilad hwnnw yn 1904, gyda gorsaf dân y dref drws nesaf. Yn 1964 symudodd y Cyngor i Neuadd Glan y Don yn Hen Golwyn a chafodd yr adeilad ei ddymchwel yn fuan wedyn.
Yn wreiddiol roedd y Gofeb Rhyfel y tu allan i Neuadd y Dref ac roedd tanc o’r Rhyfel Byd Cyntaf yno hefyd rhwng 1920 i 1927. Pan gafodd Neuadd y Dref ei dymchwel fe aed â’r Gofeb i Erddi’r Frenhines.
.