Mae Bae Colwyn yn dref eithaf diweddar a ddatblygodd yn gyflym rhwng diwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg a dechrau’r ugeinfed ganrif. Cyn hynny doedd hi’n ddim ond caeau a choedwigoedd gyda ffermydd a bythynnod yma ac acw. Ystâd Pwllycrochan oedd biau’r cwbl. Dros y blynyddoedd fe dyfodd y dref yn fan gwyliau poblogaidd ac felly y bu hi tan ganol yr ugeinfed ganrif.
Dechreuodd y datblygu ar ôl gwerthu’r stad ym 1865 a sefydlu Cwmni Ystâd Pwllycrochan a Bae Colwyn ym 1875. Roedd y Cwmni’n ymwybodol o fanteision y cyswllt rheilffordd cyfleus gydag ardaloedd trefol Gogledd Orllewin Lloegr a’r un mor ymwybodol o’r posibilrwydd o ddatblygu cyrchfan wyliau ffasiynol. Fe werthodd y Cwmni’r tir ar gyfer adeiladu ond fe gadwon nhw’r hawl i benderfynu pa fath o adeiladau yr oedd modd eu codi. Dyma nhw’n clustnodi’r parcdir ar gyfer y filas mwyaf moethus. Erbyn 1901 roedd poblogaeth y dref wedi cynyddu i 8,689.