Adeiladwyd y capel Wesleaidd cyntaf yn ardal Bae Colwyn ym Mron y Nant yn 1809, naw mlynedd ar ôl i’r enwad ddechrau cenhadu yng Nghymru. Adeiladwyd y capel nesaf ym Mhen y Bryn Hen Golwyn yn 1832.
Erbyn dechrau’r 1870au roedd gwaith wedi dechrau ar adeiladu rhai o dai Ffordd yr Orsaf, ynghyd â gwesty’r Colwyn Bay Hotel sydd bellach wedi ei ddymchwel. Gyda’r gwaith fe ddaeth gweithwyr, llawer ohonyn nhw’n preswylio yn yr ardal dros gyfnod eu gwaith (ac o bryd i’w gilydd yn setlo hefyd) ac roedd galw felly am lefydd iddyn nhw addoli.
Erbyn 1871, roedd y gweinidogion, y Parch. John Cadfan Davies Hen Golwyn a’r Parch. Thomas Morris, yn credu bod angen achos newydd. Felly, gyda chefnogaeth capeli Bron y Nant a Hen Golwyn, fe ddechreuodd y ddau gynnal gwasanaethau yn nhref Bae Colwyn. Cynhaliwyd rhai o’r gwasanaethau yng nghartref Mr. a Mrs. Roberts Sea View Villa ond fe ddaeth rhain i ben pan symudodd rhai o’r gweithwyr i ffwrdd. Fodd bynnag fe ailsefydlwyd yr achos ac yn 1873 roedd ganddyn nhw ystafell gyfleus i gynnal gwasanaethau yng nghartref Mr Robert Roberts, oedd â th? a siop yn Ffordd yr Orsaf. Ar ôl hynny fe gynhaliwyd gwasanaethau yn un o’r cytiau gwaith.
Erbyn 1875 roedd aelodau’r eglwys yn teimlo bod angen lle mwy addas ar gyfer eu haddoli ac fe benderfynwyd cael darn o dir ar gyfer capel bach. Fe brynwyd tir ar Ffordd Greenfield ar gost o £122, ac fe adeiladwyd capel yno, un bychan a agorwyd yn 1876. Fodd bynnag, erbyn canol yr 1880au roedd pologaeth y dref a chynulleidfa’r capel wedi tyfu, ac fe benderfynwyd ailwneud ac ehangu’r capel. Yn ystod cyfnod yr addasu fe fu’r aelodau’n addoli dros dro yng nghapel yr Annibynwyr. Agorwyd y capel ar ei newydd wedd, a gydag enw newydd, Shiloh, ym mis Mehefin 1888 ac am flynyddoedd roedd y capel yn llawn ar gyfer pob un gwasanaeth. Ymysg y rhai a fu’n cynnal gwasanaeth yma’n rheolaidd bryd hynny oedd yr enwog Barch. John Evans Eglwysbach.
Erbyn 1898 roedd y capel unwaith eto’n rhy fach i’w chynulleidfa â phob un sedd wedi ei glustnodi. Cafwyd cyfarfodydd o’r ymddiriedolwyr i drafod y mater ac roedd cryn anghytundeb ynghylch yr hyn a ddylid ei wneud. Roedd rhai am osod galeri yng nghapel Shiloh, a rhai eraill am brynu tir cyferbyn â Shiloh ac adeiladu capel newydd yno. Fodd bynnag, er i’r Ymddiriedolwyr basio bod yr Ysgrifennydd, Mr Morris, a oedd yn gwiethio yn y Metropolitan Bank, a’r Trysorydd, Mr Thomas Evans, i brynu’r tir cyferbyn â Shiloh, fe wrthododd Thomas Evans wneud hynny gan ei fod yn credu bod tir ar Ffordd Rhiw (lleoliad Horeb heddiw) yn rhatach ac yn le gwell i’r capel newydd. Cafwyd cyfarfod pellach lle y penderfynwyd mai’r tir ar Ffordd Rhiw oedd wedi’r cyfan y lle mwyaf addas, gan fod yno lle i adeiladu capel, ysgoldy a th? pe byddai angen. Ac felly, mewn cyfarfod yn 1899 fe roddodd yr ymddiriedolwyr ganiatâd i swyddogion y capel werthu capel Shiloh.
Yn y cyfamser, roedd angen lle i addoli ar y Wesleiaid Saesneg ym Mae Colwyn ac fe ddaethon nhw i gytundeb gyda’r Cymry i gynnal dau wasanaeth bob Sul yn Shiloh. Fe ddaethon nhw ag organ dda efo nhw y byddai Mrs Griffiths Lawson Villa, yn ei chwarae ar gyfer y ddwy gynulleidfa. Gan nad oedd melin dd?r na thrydan i greu gwynt ar gyfer yr organ roedd yn rhaid ei gynhyrchu drwy nerth bôn braich, a syrthiodd y dasg o bwmpio’r fegin i ddau fachgen, Shadrach Evans a Robert Jones. Fe barhaodd y ddau i wneud cyfraniad mawr i gapel Horeb pan yn oedolion hefyd. Mae’n werth nodi bod Ysgol Sul wedi ei agor yng nghartref Robert Jones yn Park Road, gyda rhwng 30 a 35 o blant yn mynychu.
Gwerthwyd Shiloh i’r Wesleiad Saesneg am £850, er mai pris o £900 a ofynwyd amdano. Doedd cynulleidfa St John’s ddim yn fodlon talu mwy nag £850 ac er mwyn sicrhau mai y nhw a fyddai’n cael y capel, fe gytunwyd i’w werthu am lai na’i bris. Erbyn hynny roedd yr Ymddiriedolwyr Cymraeg wedi prynu 1,374 llathen sgwâr o dir ar Ffordd Rhiw am £550. Dechreuwyd yn syth bin ar adeiladu’r ysgoldy ac fe’i agorwyd ar Fai y 6ed 1900. Fe gostiodd oddeutu £1,000 a’r adeiladwr oedd Thomas Jones, Harland House. Roedd hon yn fenter fawr i grŵp mor fychan o bobl – roedd aelodaeth y capel ar y pryd yn 119.
Ar ddechrau 1901 fe luniwyd cytundeb ar gyfer adeiladu’r capel, ac ar Ebrill yr 16eg 1902 fe ddadorchuddiwyd y Meini Coffa. Fe gynhaliwyd gwasanaeth i gyd-fynd â’r dadorchuddio lle cyflwynodd y Parch. T. Jones-Humphreys gyfrifon yn dangos y byddai cost y capel newydd oddeutu £4,000. Hefyd yn bresennol yn y gwasanaeth oedd y plant a oedd wedi casglu arian at yr achos. Siaradodd nifer o Weinidogion yn y cyfarfod a chafwyd casgliad o £171. Yn y gyngerdd a ddilynodd y cyfarfod fe gasglwyd £200 arall.
Agorwyd y capel newydd, sef Horeb, ar Dachwedd yr 2ail 1902 gyda gwasanaeth yng ngofal y Parch. T. Jones-Humphreys a’r Parch. F.E. Jones.
Bu merched y capel hefyd yn brysur iawn. Un o’u gweithgaredda codi arian oedd y ffair a gynhaliwyd ym mis Medi 1903 lle gwnaethpwyd elw o £527.
Yn 1904 fe godwyd dau d? y tu ôl i’r ysgoldy gan yr adeiladwr Richard Williams.
Ers y flwyddyn 2000 mae capel Horeb a’r ysgoldy wedi eu hailwampio a’u gwella’n sylweddol.
Roedd hi’n flynyddoedd yn ddiweddarach pan y gosodwyd organ Bevington gyfredol y capel. Fe ddaeth yr organ ar y tren o Lerpwl ar Fai yr 2ail 1923 ac fe’i hadeiladwyd yn y capel gan y Mri. H. Willis and Son & Lewis, Adeiladwyr Organ o 97a, Great George St, Lerpwl. Mae’n debyg iddi gymryd tair blynedd cyn bod posib defnyddio pob agwedd ohoni; roedd hyn yn rhannol oherwydd bod angen codi estyniad ar gefn y capel ar gyfer ei dal hi. Fe’i hadferwyd hi i’w llawn ogoniant rhwng 2005 a 2012 gan Keith Edwards o gwmni Robert Edwards & Co, Adeiladwyr Organ o 18, Newall Close, Tattenhall, Caer, ar gost o dros £12,000.
Pensaerniaeth
Mae capel Horeb ar ochr orllewinol Ffordd Rhiw, i fyny’r allt o eglwys St Paul’s.
Mae’r wal flaen wedi ei hadeiladu o flociau calchfaen sgwâr gyda thywodfaen, yn ôl arfer nifer dda o eglwysi a chapeli Bae Colwyn, ar gyfer rhagfuriau’r talcenni, rhesi addurniadol, ac o gwmpas y drysau a’r ffenestri.
Mae rhan ganol y wal flaen, â’i ffenestri dellt uchel â chwareli bychain, yn sefyll allan fymryn oddi wrth weddill y wal. Mae dwy ffenestr ynghanol y wal, a dwy ffenestr sengl bob ochr, pob un â thopiau bwaog. O dan y rhain mae dau le drws hardd yn cynnwys parau o ddrysau o fyrddau pren da gyda phaneli gwydr lliw uwch eu pennau. Rhwng y ddau le drws mae lamp addurniedig wedi ei osod a phob ochr i’r drysau mae ffenestri gwydr lliw.
Uwchben y prif fynediad mae plac carreg ag arni, wedi eu cerfio, enw’r capel a’r dyddiad 1902. Mae nifer o Feini Coffa yno hefyd yn cofnodi enwau’r rhai a osododd y cerrig sylfaen.
Mae’r wal flaen a’r ffenestri fwy neu lai’n gyflawn ac fel yr oedden nhw’n wreiddiol.
Mae waliau ochr (gogledd a de) y capel yn llawer symlach a’r gwaith cerrig yn llai cywrain a glan na’r wal flaen. Mae ochrau’r ffenestri uchaf ac isaf wedi ei llunio o frics melyn gyda siliau a linteri carreg. Mae’r capel wedi ei doi â llechi a theils crib coch syml.
Mae wal isel o galchfaen gyda meini copa tywodfaen ar hyd terfyn tir y capel â’r pafin cyhoeddus a’r ffordd. Mae’r giatiau addurnedig wedi eu cynnal gan bileri pigfain anghyffredin.
Ffynonellau
“Y Cyhoeddwr” Rhif. 16 Gwanwyn 1976. Cofnod gan y diweddar Mrs Robert Roberts Lansdowne, Cilgaint St. John‘s, Hen Golwyn adeg hannercanmlwyddiant capel Horeb ym mis Tachwedd 1952.
Norman Tucker – Colwyn Bay, its origin and growth.