Ganwyd Jules Prudence Riviere ym Mharis ym 1819. Dechreuodd er ei yrfa gerddorol fel côr-fachgen a datblygu i fod yn un o brif gyfansoddwyr Ffrainc. Ar ôl clywed un o’i gerddorfeydd anhygoel yn perfformio ym 1857 fe gyflwynodd Ymerawdwr ac Ymerodres y wlad sêl-fodrwy iddo fel cydnabyddiaeth. (Cylchlythyr ‘The Musical Times and Singing Class’, 1901, tud. 123).
Bu i’w lwyddiant yn Ffrainc ei arwain i Brydain lle rhoddodd ei fryd ar ennill enw iddo’i hun fel cyfansoddwr byd-enwog.
Pan gyrhaeddodd Loegr yn 1857 daeth yn enw adnabyddus bron ar unwaith gan berfformio yn Theatrau Adelphi ac Alhambra, Gerddi Cremorne ac yng Nghyngherddau Rhodfa Covent Garden. Roedd y cynulleidfaoedd wedi ffoli arno o’r cychwyn cyntaf, nid yn unig ar gyfrif ei ddawn gerddorol ond oherwydd ei ffordd arbennig o gadw cyngerdd. (Scowcroft, n.n.)
Ym 1865 dechreuodd Riviere gydweithio â William H Hawkes, cyhoeddwr adnabyddus. Bu’r ddau yn creu, mewnforio a dosbarthu llu o offerynnau cerdd. Does dim tystiolaeth o faint o waith cynllunio’r offerynnau oedd Riviere yn gyfrifol amdano. Fodd bynnag roedd yr offerynnau o’r radd flaenaf ac roedd iddyn nhw nodweddion traddodiadol Ffrengig.
Ym 1887 bu Jules Prudence Riviere yn gweithio fel cyfarwyddwr cerddoriaeth ym Mhafiliwn Pier Llandudno. Dyma pryd y bu iddo lansio cyngerdd y promenâd. (Theatres Online, n.d). Roedd y cyngherddau mor boblogaidd fel y bu’n rhaid eu cynnal ym Mhafiliwn y Pier yn hytrach nac ym mhen y Pier. (Scott, 2009).
Wedi iddo wneud enw iddo’i hun yn Llandudno bu iddo gasglu cerddorfa o bedwar deg dau at ei gilydd. Roedden nhw’n perfformio’n rheolaidd ym Mhafiliwn y Pier ac yn llwyddiant ysgubol. (Roberts, Morley, 2002, t.12).
Roedd trigolion Llandudno’n hoff iawn o Riviere pan ddaeth i’r dref gyntaf. Fodd bynnag, bu iddo ffraeo gyda rheolwyr y pier yn ei henaint, a dechreuodd lygadu’r pier newydd oedd yn cael ei godi yr ochr draw i Drwyn y Fuwch.
Fe orffennwyd y gwaith ar Bier Victoria, Bae Colwyn ym 1890 ac roedd lle i 2,500 o bobl yn y pafiliwn. Fe drefnwyd bod Jules Riviere a’i gerddorfa yn chwarae yn ystod y tymor agoriadol. Bu i Jules Riviere a’i gerddorfa ynghyd â’r enwog Madame Adelina Clorinda Patti gynnal cyngerdd anhygoel ar noson yr agoriad swyddogol, Mehefin yr 2il 1890. (Roberts, Morley, 2002, t.9).
Fe symudodd Riviere o Landudno i Fae Colwyn gan benderfynu mynd ag enw ei gartref yn Llandudno gydag o: Bod Alaw. Fodd bynnag ni fu’n byw yno’n hir oherwydd bu farw Jules Prudence Riviere ar Ragfyr y 26ain 1900 yn 81 mlwydd oed. (Cylchlythyr ‘The Musical Times and Singing Class, 1901, t.123). Mae wedi’i gladdu ym mynwent eglwys Llandrillo yn Rhos.
Er nad oedd Riviere wedi gweithio gyda Chwmni Pier Bae Colwyn yn hir roedd yn boblogaidd dros ben ac yn rhan annatod o lwyddiant y Pafiliwn a’r dref. Does rhyfedd yn y byd fod hanes Jules Prudence Riviere yn dal i gael ei adrodd hyd heddiw.
Yn dilyn ei farwolaeth fe newidiwyd enw’r stryd lle bu’n byw am 7 mis yn unig i ‘Rodfa Riviere’ er mwyn anrhydeddu ei gyfraniad i’r dref. Agorwyd Ysgol Gynradd ‘Bod Alaw’ ar Ddydd Gŵyl Dewi 1950 yng nghyn-gartref Riviere. Mae’r ysgol wedi symud i Ffordd Abergele, gyferbyn â Pharc Eirias erbyn hyn. (Colwyn Bay t.211).
Cyfeiriadau
Tucker, N. Jones, I. (2001). Colwyn Bay: Its History Across the Years. Ashbourne: Landmark Publishing Ltd.
Roberts, E., Morley, H. (2002). The Spirit of Colwyn Bay: 1: The 20th Century in Photographs. Ashbourne: Landmark Publishing Ltd.
Eadsdown, M., Thomas, D. (2010). Piers of Wales. Chalford: Amberley Publishin Plc.
Theatres Online. (n.d). Venue Cymru. Lawrlwythwyd ar y 1af o Orffennaf, 2011 o http://www.theatresonline.com/theatres/llandudno-theatres/venue-cymru/
The Musical Times and Singing Class Circular. (1901). Teyrnged: Jules Prudence Riviere, 42(696), 123-124
Scowcroft. P. (n.d.). A Twentieth Garland of British Light Music Composers. Lawrlwythwyd ar y 13eg o Orffennaf 2011 o: http://www.musicweb-international.com/garlands/20.htm
Scott, S. (2009). Orchestral Music at Llandudno. Lawrlwythwyd ar y 13eg o Orffennaf 2011 o : http://www.musicweb-international.com/classrev/2011/Jan11/Llandudno_Scott.htm

