Enw gwreiddiol Llawr Pentre oedd Glan yr Afon. Yma roedd yr Hen Golwyn cyntaf ac yma roedd y rhyd yr adeiladwyd y pentref gwreiddiol o’i gwmpas. Roedd yma felin flawd, fferm, lladd-dy, gweithdy saer olwynion, cyfrwywr a chigydd. Cyn 1750, dŵr o bwll y felin ym Mhen y Bryn oedd yn troi’r felin, ac roedd y pwll hwnnw’n derbyn ei ddŵr o lifddor yn y Ddol Ddu.
Bu i’r felin gau yn y 1920au a chondemniwyd 21 o’r bythynod yn 1940; symudwyd y tenantiaid i ystâd dai newydd ym Mochdre.
Mae rhifau 1-3 Llawr Pentre, ym mhen gogleddol y teras, yn dai o ddechrau’r 19eg ganrif sydd wedi eu rhestru’n adeiladau Gradd II.

