Mae Bae Colwyn yn dref eithaf diweddar a ddatblygodd yn gyflym yn niwedd y 19eg a chychwyn yr 20fed ganrif. Hyd at ganol yr 20fed ganrif roedd yn fan gwyliau pwysig a phoblogaidd. Cyn diwedd y 19eg ganrif doedd Bae Colwyn yn ddim ond caeau a choedwigoedd gydag ambell fferm a bwthyn. Stâd Pwllycrochan oedd piau’r rhan fwyaf ohonynt.
Mae map degwm 1847 yn dangos ychydig o adeiladau ym mhlwyf Llandrillo yn Rhos, yn bennaf “Pyll y crochan” (Pwllycrochan) ffermydd Rhyd, Dinerth, Aberhod a Nant y Glyn a threfgordd Colwyn (Hen Golwyn fel yr ydym yn ei adnabod heddiw). Roedd yr ardal bron yn gyfan gwbl yn dir agored, ffermydd, llwybrau troed a chyrsiau dŵr. Fodd bynnag, roedd datblygiad Bae Colwyn yn gysylltiedig â gwerthu’r ystâd yn 1865 a sefydlu Cwmni Ystâd Bae Colwyn a Pwllycrochan yn 1875.
Roedd y Cwmni’n ymwybodol o fanteision y cyswllt rheilffordd gyfleus gydag ardaloedd trefol Gogledd Orllewin Lloegr. Roedden nhw’r un mor ymwybodol o’r posibilrwydd o ddatblygu cyrchfan wyliau ffasiynol. O ganlyniad fe werthodd y Cwmni’r tir ar gyfer adeiladu. Y stâd oedd yn penderfynu beth oedd i’w adeiladu. Dyma nhw’n clustnodi’r parcdir ar gyfer y filas mwyaf moethus. Erbyn 1901 roedd poblogaeth y dref wedi cynyddu i 8,689.
Arweiniodd datblygiadau pellach yn ystod yr ugeinfed ganrif at gynnydd i tua 30,000 ym mhoblogaeth Bae Colwyn erbyn diwedd y ganrif. Yn anochel, bu i hyn arwain at drefoli’r ardal a rhoi pwysau ar fannau agored ar gyfer datblygiadau preswyl a masnachol. Dros amser mae amryw o ddarnau o dir agored wedi’u cymryd i berchnogaeth a daliwch yr awdurdod lleol i bawb eu mwynhau.
Ar adeg sefydlu’r prosiect presennol yn 2017 mae’r pwysau ar fannau agored yn parhau ac am y rheswm yma penderfynodd Grŵp Treftadaeth Bae Colwyn ymchwilio a dogfennu nifer o’r prif fannau agored cyhoeddus yn y dref sy’n parhau i fod yn gymynroddion pwysig o’r amgylchedd gwledig iawn a oedd yn rhagflaenu datblygiad Bae Colwyn fel yr ydym yn ei adnabod heddiw. Mae’r erthyglau canlynol yn dogfennu rhai o’r mannau agored cyhoeddus mwyaf amlwg sydd ar ôl ym Mae Colwyn gan gynnwys eu lleoliad, hanes a threftadaeth ynghyd â’u defnydd presennol.
Nid yw gwaith y Prosiect Mannau Agored ar gael yn Gymraeg ar hyn o bryd.