Agorodd y rheilffordd rhwng Gaer a Bangor i deithwyr yn 1848 gyda gorsaf wreiddiol y dref yn Hen Golwyn. Gyda threfi Gogledd Orllewin Lloegr yn tyfu a’r rheilffordd newydd yn golygu bod cyrraedd gogledd Cymru’n haws, roedd hi’n bosib datblygu trefi’r Glannau – Y Rhyl, Bae Colwyn a Llandudno.
Roedd gorsaf gyntaf Bae Colwyn, a enwyd yn wreiddiol yn Pwllycrochan Halt, wrth ymyl y bont ar Marine Road. Dewiswyd y safle hwn i gyd-fynd â dymuniadau perchennog y tir, yr Arglwyddes Erskine, a werthodd y tir i gwmni’r rheilffordd ar yr amod bod ei cherbyd hi yn cael blaenoriaeth.
Yn nechrau’r ugeinfed ganrif, pan roedd bws wedi’i thynnu gan geffyl yn mynd ag ymwelwyr i Westy Pwllycrochan, roedd yr arfer yma’n parhau. Yn ddiweddarach, adeiladwyd gorsaf Bae Colwyn ar y safle presennol. Roedd gweision mewn lifrai o westai mawrion y dref yn dod i gwrdd â’u gwesteion o’r orsaf. Cafodd y pedwar platfform eu lleihau i ddau yn 1983.