Doedd Bae Colwyn ddim yn bodoli pan benodwyd y Parchedig Venables Williams yn Ficer Plwyf Eglwysig Llandrillo yn Rhos ym 1869. Roedd y plwyf ei hun yn ymestyn o Lan Conwy i Barc Eirias gyda dim mwy na 900 o bobl yn byw yno.
Erbyn 1871 roedd trefgordd newydd yn dechrau ymffurfio o amgylch Arosfa Pwllycrochan (yr orsaf oedd yn bod cyn datblygu gorsaf drenau Bae Colwyn). Aeth Venables Williams rhagddo i ddatblygu gweithgareddau cymdeithasol yn rhan ‘newydd’ ei blwyf. Derbyniodd ganiatâd i gynnal cyrddau gweddi ac addoli Anglicanaidd mewn gweithdy saer coed yn Stryd Iorwg gan y perchennog, Abel Williams o Landudno. Diddorol ydi nodi bod Abel yntau yn Anghydffurfiwr adnabyddus. .
Cynhaliwyd y gwasanaeth cyntaf ar Fehefin y 18fed 1871 gyda 70 o bobl yn bresennol. Union flwyddyn yn ddiweddarach fe gynhaliodd y gwasanaeth mewn capel pwrpasol a godwyd ar y tir lle saif Eglwys Sant Paul heddiw. Roedd y tir yn rhodd gan Thomas Erskine o Blasdy Pwllycrochan. Ariannwyd y capel drwy danysgrifiad a dywedwyd fod lle ynddo i 220 o bobl (neu 150 yn dibynnu ar ba ffynhonnell rydych chi’n edrych arni!). John Douglas a gynlluniodd y capel ac fe gaiff ei ddisgrifio fel ‘adeilad deniadol wedi’i wneud o frics, coed a haearn gyda tho llechi.’
Bwrdd Gwarcheidwaid Conwy oedd yn llywodraethu’r ardal ar y pryd – bwrdd yr oedd Venables Williams yn aelod ohono am fwy na chwarter canrif, ac yn y gadair ar fwy nac un achlysur. Derbyniodd ‘gloc canu’ yng Ngwesty Pwllycrochan ym mis Mai 1872 am lwyddo i gywiro system raddio Undeb Conwy oedd yn ddrwg-enwog am ei chamgymeriadau. Bu iddo hefyd herio Cymdeithas Feddygol y Ddeddf Dlodi ynghylch honiadau o orbrisio moddion gan lwyddo i leihau’r prisiau’n sylweddol ar gyfer y tlodion. Cofnodwyd hyn yn y Cylchgrawn Meddygol Prydeinig ar Fehefin y 13eg 1885. Bu hefyd yn ymdrechu i ostwng treth y rheilffordd i £950. Pasiwyd hyn ym 1871 gan arwain at ostwng y dreth leol o 5swllt a cheiniog (25c) i 2 swllt a thair (11c).
Yn y flwyddyn 1886, gyda Rhyfel y Degwm ar ei anterth fe losgwyd Capel Cenhadol Newydd Colwyn i’r llawr. ‘Terfysgwyr Mochdre’ oedd yn gyfrifol (criw roedd Venables-Williams wedi eu condemnio eisoes.) Fodd bynnag bu’r gwasanaethau’n parhau yn y Neuadd Gyhoeddus, sef Theatr Colwyn heddiw.
Cafwyd arian yswiriant am y Capel ac fe agorwyd cronfa i adeiladu eglwys newydd. Rhwng hynny, y tanysgrifiadau a chyfraniadau fe godwyd swm o £4794, 5swllt a thair ceiniog i adeiladu corff ac ystlysau presennol Eglwys Sant Paul. Adeiladwyd côr dros dro ac fe gysegrwyd yr eglwys ar gyfer addoli ar Orffennaf y 13eg 1888. Adeiladwyd y côr presennol ym 1895 a’r t?r ym 1911.
Yn union wedi i’r Gwir Parchedig Joshua Hughes gael ei gysegru yn Esgob Llanelwy aeth y g?r hwnnw ati i ffurfio plwyf eglwysig newydd ym Mae Colwyn gyda chymorth brwd Venables Williams. Venables Williams oedd Ficer cyntaf y plwyf, ac fe barhaodd gyda’i swydd fel Ficer Llandrillo yn Rhos yr un pryd hefyd. Erbyn hynny ystyriwyd Venables Williams yn berson pwysig a dylanwadol yn y drefgordd newydd. Roedd yn Gadeirydd Bwrdd Lleol Colwyn a Bae Colwyn. Ffurfiwyd y Bwrdd ym 1887 i hwyluso’r gwaith o uno Hen Golwyn (Colwyn bryd hynny) a’r dref newydd oedd yn prysur dyfu (Colwyn Newydd bryd hynny) i ffurfio un cyngor. Daeth y gwaith i ben ym 1895 gyda ffurfio Cyngor Bae Colwyn a Chyngor Dosbarth Trefol Colwyn.
Bu farw’r Esgob Hughes cyn iddo fedru penderfynu ar fanylion terfynol y plwyf newydd. Roedd gan Esgob newydd Llanelwy (a ddaeth yn Archesgob cyntaf Cymru maes o law) farn wahanol. Roedd yn benderfynol o benodi Ficer newydd ar gyfer y plwyf.
Cymaint oedd gwrthwynebiad Venables-Williams i rannu ei blwyf yn ddau fel iddo fynd â’i gwyn at y Senedd. Anfonwyd deiseb â 582 o enwau arni at y Comisiynwyr Eglwysig ac fe ysgrifennodd Venables Williams lythyr personol i’r Frenhines Fictoria ynghylch y mater. Fodd bynnag, roedd yr Esgob Hughes yn benderfynol y dylid penodi Ficer newydd a chreu Bae Colwyn yn blwyf yn ei hawl ei hun. Ymhen amser fe lofnododd y Frenhines Orchymyn y Cyfrin-Gyngor. Ffurfiwyd plwyf eglwysig Bae Colwyn ar Fai’r 19eg 1893 ac fe benodwyd y Parchedig Hugh Roberts fel y Ficer cyntaf ar Fehefin yr 17eg.
Ychydig ddyddiau’n unig ar ôl i’r Frenhines Fictoria daro ei llofnod ar Orchymyn y Cyfrin-Gyngor fe ysgrifennodd Venables Williams lythyr agored i bawb yn yr ardal yn datgan ei gynddaredd a’i chwerwedd. Ysgrifennodd, yn Saesneg:
‘ F’annwyl Blwyfolion ym Mae Colwyn
Daeth yr ergyd derfynol o’r diwedd… ….mae’n amser i mi felly, yn gwbl anfodlon… ffarwelio â chi ac ymadael â rhan hoff iawn o’m gwaith yn y plwyf hwn, sef Bae Colwyn. Rydw i wedi gweld twf y plwyf a’m llygaid fy hun gydag adeiladu Eglwys Sant Paul yn binacl i’r twf hwnnw.
Hoffwn yn awr grybwyll ffaith na ?yr neb amdani. Pan roddodd y pensaer yr anfoneb derfynol i mi …am oddeutu £700 doedd dim ceiniog ar ôl yn y banc i’w dalu. Rhaid oedd i mi dalu o fy mhoced fy hun i atal dyled i’r Eglwys. Mae gofyn yn awr i mi ildio fy lle i rywun arall fydd yn medi ffrwyth fy llafur.
Rwy’n siomedig iawn bod yn rhaid i mi roi’r gorau i fy ngweinidogaeth yn Eglwys Sant Paul ac o’r farn nad oedd angen gwahanu’r ddau blwyf mewn dull mor greulon a didostur (heb reswm digonol o gwbl)
Hoffwn ddiolch i chi gyd am eich caredigrwydd di-dor a’ch goddefgarwch gydag amryw o’m meiau i…Rwy’n gweddïo y bydd bendith Duw arnoch chi gyd ac mae’n awr yn amser i mi ddweud ‘Bellach, Gyfeillion, Ffarwel’.
Bu Venables Williams yn Ficer Llandrillo yn Rhos am saith mlynedd wedi rhannu’r plwyfi gan ymwneud llai a llai gyda thref Bae Colwyn. Llwyddodd hefyd i gasglu dros £20,000 er mwyn datblygu eglwysi yn yr ardal yn ystod ei gyfnod fel Ficer. (Tuag at ddatblygu Eglwys Sant Paul yn bennaf). Fe wyddom yn awr ei fod wedi morgeisio’i eiddo personol pan luniwyd y cytundeb ar gyfer Eglwys Sant Paul ym 1887. Fe wnaeth hyn fel bod modd i’r adeiladwr dalu cyflog ei weithiwyr am yr wythnos gyntaf.
Gosodwyd ffynnon yfed ar Rodfa Llandrillo yn Rhos ym 1906 drwy danysgrifiad ‘…i gydnabod gwasanaethau niferus y Parchedig W.Venables – Williams MA (Oxon) JP i drigolion yr ardal yn ystod ei 31 mlynedd fel Ficer Llandrillo yn Rhos.
Mae hefyd plac llechen, sydd mewn cyflwr bur wael erbyn hyn, ger y ffordd sy’n mynd o dan y ffordd gyferbyn â Phier Bae Colwyn sy’n dweud fod… y Parchedig W. Venables Williams wedi agor y ffordd ym 1891. Bu iddo ofyn am danffordd tra’r oedd yn Gadeirydd ar y Bwrdd Lleol. Roedd eisiau’r tanffordd fel bod rheilffordd yn syth o’r dref i’r traeth. Wrth gwrs, dydi tanffordd yn golygu dim i ni heddiw, ond bryd hynny roedd yn rhywbeth o bwys mawr. Galwyd y ffordd agosaf at y danffordd yn ‘Ffordd y Ficer’ yn wreiddiol. .
Ar ddiwrnod ei angladd fe gaewyd holl siopau’r ardal drwy’r prynhawn ac fe osodwyd mwy na hanner cant o blethdorchau er cof amdano. Roedd dwy dudalen gyfan am ei gyfraniad i ddatblygiad Bae Colwyn yn y Weekly News (a oedd yn argrafflen bryd hynny).
Cyfeiriadau:
- ‘Colwyn Bay: Its History Across the Years’, Norman Tucker ac Ivor Wynne Jones
- ‘Landmarks Collectors Library’.
- Taflenni heb eu cyhoeddi o Eglwys Sant Trillo, Llandrillo yn Rhos