Mae Grŵp Treftadaeth Bae Colwyn yn falch iawn o lansio’r rhifyn newydd hwn o Daith Gerdded Treftadaeth Llandrillo-yn-Rhos.
Mae wedi’i ariannu trwy Brosiect Dychmygwch Bae Colwyn, gyda diolch i Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol, Cyngor Tref Bae Colwyn a Chyngor Bwrdeistref Sirol Conwy.
Gellir lawrlwytho’r llyfryn ar ffurf PDF yma: Taith Gerdded Treftadaeth Llandrillo-yn-Rhos
Mae’r llyfryn printiedig ar gael o’r Pwynt Gwybodaeth i Dwristiaid yn Rhos (Happy Faces) a Chanolfannau Gwybodaeth i Dwristiaid Llandudno a Conwy.
Gwaith aelod o’r Grŵp Treftadaeth, Ian Reid yw Taith Gerdded Treftadaeth Llandrillo-yn-Rhos, sy’n cyflwyno’r daith gerdded:
“Nod y canllawiau hyn yw eich tywys ar daith o amgylch pentref deniadol Llandrillo-yn-Rhos a’ch cyflwyno i’w dreftadaeth hanesyddol hynod gyfoethog. Mae gan Landrillo-yn-Rhos gysylltiadau cryf gydag amrywiaeth annisgwyl o gyfnodau a digwyddiadau hanesyddol gan gychwyn yn oes y Rhufeiniaid, drwy gyfnod y seintiau Celtaidd, yr Oesoedd Canol, cyfnod y Frenhines Elizabeth, hyd heddiw.
Defnyddiwch y daith gerdded hon i ganfod nifer o adeiladau a safleoedd hanesyddol a dysgu am y bobl ddiddorol sy’n gysylltiedig â rhai ohonynt. Bydd prif ran y daith yn cymryd oddeutu awr yn ardal y promenâd. Mae tri estyniad dewisol wedi’u hychwanegu i’r bobl hynny sydd â mwy o amser ac egni. Byddai’r daith gyfan, gan gynnwys y llwybr hyfryd i fryngaer Bryn Euryn (mae’n sicr yn werth mynd i weld y golygfeydd gwych), yn cymryd rhwng 3 a 3½ awr. Gan fod y daith yn gylchol, gallwch ymuno ar unrhyw bwynt. Mae’r cyfarwyddiadau wedi’u nodi mewn glas ac mae gan y mannau o ddiddordeb rif ac felly’n hawdd eu dilyn.
Mae nifer o gaffis a siopau te rhagorol yng nghanol Llandrilloyn-Rhos, a byddwch yn mynd heibio tafarndai sy’n gweini bwyd ar y daith, felly bydd digon o gyfleoedd i chi orffwys a mwynhau tamaid i’w fwyta. Mae nifer o feinciau ar hyd y daith hefyd os hoffech chi gymryd seibiant i fwynhau’r awyrgylch hyfryd! Mae llefydd i barcio ar hyd y rhan fwyaf o’r promenâd”.
Mae’r llyfryn treftadaeth yma’n un o nifer sydd wedi ysbrydoli datblygiad ap Llwybr Cerdded Realiti Estynedig ‘Dychmygu’. Mae’r profiad Realiti Estynedig cyffrous hwn yn cael ei ddatblygu ar hyn o bryd. Byddwch yn gallu ei lawrlwytho ar eich ffôn clyfar i ddod â’r gorffennol yn fyw gyda straeon, lluniau a sain gan greu antur unigryw, ddiddorol a rhyngweithiol i dreftadaeth leol. Byddwch hefyd yn gallu agor fersiynau ‘taith glywedol’ o’r llyfrynnau drwy’r ap. Gallwch ddod o hyd i ragor o fanylion ar www.llwybrdychmygu.com.
Cydnabyddiaeth: ein diolch i John Evans o Handy Office am ei arbenigedd a’i gefnogaeth wrth lunio’r llyfryn yn ei newydd wedd.