Sefydlwyd ‘Frish and Wins’, siop offer diemwntau ar gyfer arfau rhyfel, ar lawr uchaf siop nwyddau haearn yn Princess Drive. Roedd y diwydiant diemwntau’n bwysig iawn yn ystod y rhyfel gyda diemwntiau’n cael eu defnyddio nid yn unig i wneud arfau ond fel arian hefyd. Crëwyd offer fel peirianwaith llifio yn Slamco yn Efrog Newydd a’u cludo i Brydain. Yn anffodus fe ddinistriwyd yr offer cyntaf a anfonwyd yma yn ystod cyrch yn Lerpwl. Bu ffoaduriaid o Wlad Belg, Dua a Stoeltjes yn creu rhai arfau yn yr ardal hon gyda’r rhain yn eu tro yn cael eu hallforio i’r America i dalu’n rhannol am arfau rhyfel a nwyddau eraill wedi eu mewnforio o dan y cytundeb Les-fenthyg.
G?r o’r Iseldiroedd o’r enw Mr Biallostersky oedd yn gyfrifol am y deunaw gweithiwr a driniai’r peiriannau. Roedd ffatrïoedd torri diemwntau ym Mangor hefyd lle cai chwe deg o weithwyr eu cyflogi. Fe gai sawl iaith ei siarad yno – Iseldireg, Saesneg, Fflemineg, Ffrangeg a Chymraeg. Roedd y diwydiant diemwntau yn rhan annatod o’r rhyfel ac o’r herwydd roedd y gweithwyr wedi eu heithrio rhag gwasanaeth milwrol. Ymhen amser fe werthodd Frish and Wins eu ffatri i J. K. Smith a agorodd ffatri offer diemwntau yn Llandrillo-yn-Rhos hefyd maes o law. Gwaith y ffatri honno oedd creu pwyntilau o ddiemwntau a bu ar agor tan y 1950au.
Gweithwyr y diwydiant diemwntau yn ystod y rhyfel yn ymlacio ar y pier. Llun gan Mrs. G. Roberts.
Crëwyd amryw o wahanol offer yn ffatri Frish and Wins. Dyfeisiodd Eddy De Klerk, gweithiwr diemwntau o Wlad Belg offer diffodd tân a hefyd peiriant i droi d?r halen yn dd?r ffres. Er nad syniad newydd mo’r peiriant dyma’r unig un o’i fath oedd yn ddigon bach i’w gario gyda chi a’i ddefnyddio mewn bad achub. Mae’n debyg y rhoddwyd y peiriant i’r Morlys. Gofynnwyd i un o’r bobl oedd yn gweithio yn y ffatri yn ystod ei arddegau ‘a oedd Bae Colwyn yn cyfrannu unrhyw beth arall at y rhyfel?’ Atebodd ‘yr unig beth roedd gennym ni ddiddordeb mewn gwneud oedd mynd i weithio a chael ein cyflog’. Mae’r datganiad yma’n cadarnhau’r gred fod diwydiant wedi bod yn rhan fawr o fywydau’r bobl ifanc hynny oedd yn byw yn yr ardal adeg y rhyfel.
Gwybodaeth gan Hans Wins, mab sefydlydd y ffatri. Fe ymwelodd â’r dref yn 2010 ac mae’n dal yn hoff iawn o Fae Colwyn.
Gwybodaeth wedi’i atgynhyrchu drwy garedigrwydd Cindy Lowe, awdures Colwyn Bay Accredited: The Wartime Experience