Theatr Colwyn, Ffordd Abergele (Llwybr Treftadaeth Canol y Dref)

Dechreuodd y gwaith o adeiladu’r theatr yn 1885 gan Gwmni’r Neuadd Gyhoeddus, cwmni newydd ei sefydlu ar y pryd. Y grŵp cyntaf i’w cofnodi’n defnyddio’r neuadd oedd cynulleidfa Eglwys Sant Paul, gan fod eu heglwys wedi mynd ar dân. Defnyddiwyd y lleoliad ar gyfer amryw o ddigwyddiadau gan gynnwys dawnsfeydd milwrol a ralïau gwleidyddol.

Yn 1909 trawsnewidiwyd yr adeilad yn bictiwrs cyntaf Bae Colwyn. Bu Theatr Colwyn yn dangos ffilmiau ers mwy na chanrif felly sy’n golygu mai hi ydi sinema fwyaf hirhoedlog Prydain. Ond yn anffodus doedd dyfodiad y ‘talkies’ hyd yn oed, ddim yn ddigon i achub y busnes, a chaewyd yr adeilad, a gai ei alw ar y pryd yn The Rialto, yn 1930. Yna bu trychineb wrth i dân ddinistrio to’r adeilad gan achosi iddo ddymchwel i mewn i’r awditoriwm.

Ail-agorwyd yr adeilad o dan yr enw ‘New Rialto Repertory’Theatre’ gyda tho a llwyfan newydd yn 1936 dan arweinyddiaeth yr actor/rheolwr Stanley Ravencroft. I gychwyn penderfynodd rentu’r adeilad ar brydles o 9 wythnos yn unig, ond arhosodd am 22 mlynedd, gan fyw gyda’i gath ddu mewn fflat uwch ben yr awditoriwm. Gyda’r miloedd o weithwyr y Weinyddiaeth Fwyd yn symud i’r dref yn ystod Yr Ail Ryfel Byd cynyddodd y cynulleidfaoedd yn aruthrol.

prince of wales theate

Prynodd y Cyngor yr adeilad yn 1959, ac fe’i hail-enwyd yn y ‘Prince of Wales’.  Roedd y cwmni theatr yn llwyddiant ysgubol, ac yn rhan annatod o ddigwyddiadau’r theatr am y pedwar degawd nesaf.

Yn 1991, fel rhan o gynllun moderneiddio, newidiwyd yr enw unwaith eto i Theatr Colwyn. Ers hynny mae’r sinema wedi ail-ymddangos ac mae modd gweld dramâu, gigiau, sioeau cerdd a sioeau ysgol. Erbyn hyn mae gan yr adeilad ei stiwdio recordio a’i hystafell ymarfer ei hun.

theatr colwyn

Rhannwch y dudalen hon
Colwyn Bay Heritage Group