Roedd yr Annibynwyr, fel mewn nifer fawr o lefydd eraill, yn arloeswyr anghydffurfiaeth ym Mae Colwyn. Dechreuwyd yr achos ym mwthyn Bryn-y-Gwynt yn 1804 ac fe gynhaliwyd gwasanaethau yno’n rheolaidd am 11 o flynyddoedd.
Prynwyd safle’r Union Church, fel y gelwir hi heddiw, gan yr Annibynwyr yn 1874, ond bu’n rhaid aros tan 1878 nes y codwyd a chysegrwyd yma adeilad sinc â lle i 200 o addolwyr. Ar y dechrau fe gynhaliwyd gwasanaethau dwyieithog yma, ond fe brofodd hynny’n anfoddhaol ac yn 1882 fe ffurfiodd unarddeg o aelodau Seisnig achos ar wahân. Er hynny be barhaodd y ddwy gynulleidfa i ddefnyddio’r un adeilad ac am sawl blwyddyn fe gynhaliwyd gwasanaethau yn y Gymraeg a’r Saesneg. Fe brofodd hyn hefyd yn anfoddhaol ac fe brynodd yr eglwys Saesneg yr adeilad a chymryd meddiant o’r tir lle mae’r Union Church yn sefyll heddiw. Fe agorwyd eglwys Gymraeg, Capel Salem, nepell i ffwrdd ar Ffordd Abergele yn 1885.
Fe ordeiniwyd gweinidog parhaol cyntaf yr eglwys Saesneg, y Parch. Thomas Lloyd, ar Ionawr yr 22ain 1884. Bu’n weinidog ar yr eglwys am 40 mlynedd. Roedd ei gyflog pan ddechreuodd yn £100 y flwyddyn.
Fe osodwyd cerrig sylfaen yr eglwys ar Fai’r 25ain 1885 a chysegrwyd yr adeilad ar Fedi’r 21ain 1885. Cost yr adeilad oedd £2,450. Adeiladwyd t? i’r Gweinidog y drws nesaf i’r adeilad. Roedd lle i 250 addoli yn yr eglwys, ond fe welwyd yn fuan bod hyn yn annigonol yn ystod misoedd yr haf, ac yn 1901 fe estynwyd yr adeilad ar gost o £4,700 gan greu lle i 600. Ymhlith yr ychwanegiadau i’r adeilad roedd nifer o ystafelloedd dosbarth a neuadd helaeth. Prynwyd organ newydd hefyd ar gost o £500.
Dilynwyd y Parch. Thomas Lloyd yn 1924 gan y Parch. W.T. Morris, ac yna yn 1929 gan y Parch. Meurig Thomas, a adawodd yn 1941 i fynd yn Gaplan yn y Lluoedd Arfog. Cymerwyd ei le gan y Parch. Lincoln Jones, ac fe fu’n rhaid i Urdd Merched yr eglwys wneud apêl am fwyd oddi wrth y gynulleidfa adeg trefnu te sefydlu’r gweinidog newydd gan fod eu cais am ddogn ychwanegol o fwyd wedi ei wrthod gan y Weinyddiaeth Fwyd. Hefyd yn ystod y rhyfel fe atafaelwyd neuadd yr eglwys gan y Cyngor er mwyn ei defnyddio fel British Restaurant.
Ym mis Rhagfyr 1945 fe ymunodd yr eglwys â Bedyddwyr Saesneg Ffordd Hawarden ac fe roddwyd yr enw Union Church ar yr eglwys, gyda’r Parch. Eynon Davies yn weinidog arni. Fe’i ddilynwyd o gan y Parch. Lake Thomas yn 1956, a ddaeth yn Weinidog Emeritws ar ei ymddeoliad yn 1973. Daeth y Parch. Tegwyn Evans yn ei le o yn 1974 ac yna’r Parch. John Huntingdon yn 1980.
Yn ei blynyddoedd diwethaf fe ddefnyddiwyd y rhan honno o lawr isaf yr adeilad sy’n wynebu Ffordd Sea View fel lle busnes gan gwmni’r Cooperative Funeral Services.
Yn anffodus, erbyn diwedd yr 20fed ganrif, roedd cyflwr yr adeilad wedi dirywio’n enbyd. Roedd yr Enwad, a oedd yn berchen ar yr adeilad, yn teimlo nad oedd posib ei drwsio a phenderfynwyd ei werthu. Mae’n debyg ei fod ar hyn o bryd yn nwylo datblygwr sydd wedi cael caniatâd cynllunio i droi’r adeilad yn 8 o fflatiau. Mae’r t? a adeiladwyd gyda’r eglwys mewn dwylo eraill, fodd bynnag, a phobl yn byw yno o hyd.
Cynhaliwyd y gwasaneth olaf yn yr adeilad, gwasanaeth diolch, ar Awst y 15ain 2002. Fe symudodd y gynulleidfa i eglwys Dewi Sant ac addoli yno tan y 4ydd o Fehefin 2006 pryd yr ymunwyd ag eglwys Methodistiaid Saesneg St John’s, Ffordd Conwy, gan ffurfio St John’s United Church.
Pensaerniaeth
Mae’r hen Union Church yn sefyll mwy neu lai cyferbyn ag eglwys St Paul’s ar gyffordd Ffordd Abergele Road a Ffordd Sea View.
Oherwydd bod yr eglwys wedi ei hadeiladu ar lethr mae iddi ddwy lawr. Mae’r brif fynedfa ar gornel Ffordd Abergele a Ffordd Sea View yn arwain i ran uchaf, prif ran, yr eglwys. Ar y llawr isaf, sydd â’i thu blaen yn wynebu Ffordd Sea View, mae yna neuadd fawr ac ystafelloedd atodol.
Fel nifer o eglwysi a chapeli’r dref, mae’r adeilad wedi ei adeiladu’n bennaf o galchfaen lleol, gyda thywodfaen ar gyfer rhagfuriau’r talcenni a rhesi yn y waliau, ac o gwmpas y drysau a’r ffenestri. Mae to’n do llechi gyda theils crib cochion.
Prif nodwedd y wal ddeheuol, yr un sy’n wynebu Ffordd Abergele, ydi’r talcen mawr â’i dair ffenestr fwaog â ffenestri llai uwch eu pennau. Mae to ateg i’r porth sydd hefyd â drws bwaog. Mae mynediad arall i’r adeilad ar ochr dde’r porth.
Mae dau dalcen mawr yr ochr orllewinol, yr ochr sy’n wynebu Ffordd Sea View, yn werth eu nodi, gyda thair ffenestr dal â chwareli lliw ymhob un. Sylwch hefyd yn uchel ar y wal ogleddol y gwaith ffug-Duduraidd.
Ffynnonellau:
Norman Jones – United Reform Church and Baptists, Colwyn Bay 1887- 1987.
Norman Tucker – Colwyn Bay, its origin and growth.