Cafodd y promenâd rydym yn ei adnabod heddiw ei adeiladu mewn rhannau dros nifer o flynyddoedd, gan ddechrau tua 1872 pan oedd Gwesty Bae Colwyn (bellach yn safle Princess Court) hefyd yn cael ei hadeiladu. I ddilyn bu blynyddoedd lawer o adeiladu, yn 1895 gwnaed cynlluniau ar gyfer promenâd bron i filltir o hyd o’r orsaf reilffordd, a agorwyd yn swyddogol ar Fehefin 22ain, 1897.

Dechreuodd y gwaith o adeiladu Pier Fictoria a’r Pafiliwn ar Fehefin 1af, 1899 ac agorodd y pier gyda chyngerdd ar Fehefin 1af, 1900. Erbyn 1901 gwnaed cynlluniau pellach i ymestyn y promenâd rhwng Hen Golwyn a Llandrillo-yn-Rhos ac yn 1905 fe agorwyd yr estyniad.
Mae’r promenâd a’r traeth bellach wedi cael gwaith helaeth fel rhan o’r Prosiect Glan y Môr sy’n cyfuno gwaith amddiffyn môr hanfodol ac adnewyddu’r lefelau ac ansawdd y tywod ar y traeth.
Y Rheilffordd Fach
Agorwyd y rheilffordd fach yn swyddogol ar Fehefin 29ain. Roedd yn rhedeg ar hyd glan y môr o’r pier at y fynedfa i Barc Eirias – ar gyfer plant o bob oed.
Yr Eliffant Mecanyddol
Mae llawer yn cofio cael reid ar gefn yr eliffant mecanyddol yn ystod diwedd y 1950au a’r 1960au.Roedd yn bosib cael reid ar hyd y promenâd am ychydig geiniogau.
Cabanau Glan-y-môr
Roedd yr ardal picnic sydd ger y fynedfa i Barc Eirias yn arfer bod yn safle cabanau lan-y-môr oedd ar gael yn ystod y dydd i fwynhau mwy ar ymweliad i lan-y-môr. Erbyn 1978 roedd y gost tua £6.50 am wythnos. Bu iddynt ddisgyn i gyflwr gwael a chawsant eu dymchwel. Datblygwyd yr ardal picnic yn eu lle.
Creigardd
Ar y ffordd i fyny i’r (neu i lawr o’r) parc edrychwch ar yr ardal ar yr ochr arall i’r ffordd i’r palmant. Ar Orffennaf 5ed, 1930 cafodd creigardd a llyn hwylio cychod bach eu hagor.
Mae Llawlyfr Swyddogol Bae Colwyn 1934 yn disgrifio’r greigardd: “No description of Eirias Park would be complete without a reference to the famous Rock Gardens. Here may be seen some 30,000 Alpine Plants in 1,500 varieties, labelled with their common and botanical names and the country of their origin. A series of natural cascades and rocky pools add greatly to the beauty and interest of these gardens“.
Bu i’r llyn hwylio cychod bach gyda’i phafiliwn ei hun, â tho brwyn , a llawer o’r greigardd gael eu colli pan gafodd yr Expressway ei hadeiladu. Fodd bynnag, gall llawer o’r planhigion a ddisgrifir yn Llawlyfr 1934 eu gweld o hyd. Cafwyd llyn hwylio cychod bach newydd y tu ôl i’r Swyddfeydd Dinesig (Neuadd Glan-y-Don, pwynt 14 ar y llwybr hwn).
Map Llwybr Treftadaeth Parc Eirias
Mae’r llwybr hwn yn rhan o’r Prosiect Cymunedau sy’n Gyfeillgar i Oed a ariennir yn rhannol o Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop (ERDF) drwy Raglen Cymru Iwerddon 2007-13.

