Cyhoeddwyd y llyfr yn 2000 i ddathlu penblwydd Ysgol Bod Alaw yn 50 oed. Mae’r gyfrol ddwyieithog yma yn llawn hanes ac atgofion am yr ysgol o’r dechrau yn Rhodfa Riviere i’r cartref presennol ar leoliad Barberry Hill, lle y sefydlwyd Coleg Llandrillo cyn symud i’r safle presennol.
Bu L. Rhiannon Jones, Nancy Jones and Jean Sockett yn brysur yn casglu’r ysgrifau a’r hanesion at ei gilydd. Cafwyd gyfraniadau gan ddau gyn-brifathro, cyn-athrawon, cyn-riant, cyn-ddisgyblion, a’r prifathro presennol (ar y pryd).
Ynghyd a’r atgofion mae casgliad da o luniau.
Gellir weld dechrau datblygiad yr ysgol gyda ymweliad yr Eisteddfod Genedlaethol a’r dref yn 1947. Mae disgrifiad hynod ddiddorol am y cyfnod cynnar yma mewn talfyriad o waith Rhisiart ap Rhys “Hanes Sefydlu Ysgol Bod Alaw”.
Yn ystod cyfnod y llyfr bu’r prifathrawon yma:
Prifathrawes 1950-1965 Miss Eluned Roberts
Prifathro 1966-1982 Mr. T. Gwynn Jones
Prifathro 1982-1993 Mr. Llew Jones
Prifathro 1993- Mr. Moi Parry
I gyn-ddisgyblion yr ysgol mae’r gyfrol yn dod a llawer iawn o atgofion am yr athrawon, cyd-ddisgyblion a’r adeiladau.
Mae’r llyfr yma ar gael i’w fenthyg o Llyfrgell Bae Colwyn.
Ysgol Bod Alaw, Bae Colwyn, 1950-2000: Deuparth Gwaith ei Ddechrau: Cyhoeddwyd gan yr ysgol: 2000.