
Mynychodd Alan Ysgol Gynradd ‘Church Walks’ cyn mynd yn ei flaen i ysgol uwchradd Parc Eirias. (Ysgol y Sir bryd hynny.) Daeth y rhyfel yng nghanol ei astudiaethau ac mae’n cofio’n union yr adeg pan gyrhaeddodd y faciwîs. Yn ôl y sôn roedd yn ysgytwad mawr i’r ysgol gydag athrawon yn brin am fod cymaint wedi ymrestru yn y fyddin. Fe ddywedodd Alan fod y plant o Lerpwl yn mynd i’r Ysgol Ganol (Pendorlan) fel arfer. Roedd Alan yn 10 oed ym 1940.
Roedd rhai o’r plant o dras Iddewig ac roedd y plant lleol yn eu herian wrth ofyn ‘O le dach chi’n dod? Cohen Bay neu Llanyidno?’ Ond ar y cyfan roedd y plant yn ffrindiau da. Cofia Alan hefyd i Brif Swyddog Gweithredol Y Weinyddiaeth Fwyd o Westy’r Queens ddod i letya yn ei gartref. Doedd dim lle i faciwîs aros gyda nhw hefyd. Pan aeth Alan i ddiwrnod agored yn yr ysgol flynyddoedd yn ddiweddarach roedd wedi siomi nad oedd lluniau o’r disgyblion blynyddoedd y rhyfel ar waliau’r adeilad gwreiddiol. Aeth i ddweud wrth y Prifathro.
Pan oedd yn bymtheg oed fe ddaeth personél y Weinyddiaeth Fwyd i’r ysgol gyda’r gobaith o gyflogi staff. Bu i Alan sefyll yr arholiad ac fe basiodd. Bu’n gweithio yng Ngwesty’r Queens i gychwyn i ‘Wartime meals,’ – adran o’r Llywodraeth oedd yn rheoli holl Fwytai Prydain. Syr Bertram Chrimes, cyn-reolwr ‘Coopers’ Lerpwl, oedd arweinydd y cynllun. Mae Alan yn cofio ei ferch, Eileen, a ddaeth maes o law yn ddoctor a phriodi doctor arall o’r enw Henry Davies. Ymhen amser bu i’r ddau agor meddygfa ar Briffordd Nant y Glyn. Fe gafodd Alan ei symud i weithio yng Ngwesty Pwllycrochan ac yna i Westy’r Metropole i weithio gyda’r ‘Eggs Finance’. Ei swyddogaeth oedd gwirio archebion.
Pan ddaeth y rhyfel i ben fe gafodd Alan swydd gyda’r ‘Salvage Division’ yn Lerpwl ar gyfrif y profiad oedd ganddo. Roedd y ffatri’n trefnu a didoli bwyd anifeiliaid a bwyd pobl mewn storfa oedd yn eiddo i’r llywodraeth. Fe gai’r bwyd ei fewnforio o America yna’i raddio yn y ffatri.
Wedi gweithio am gyfnod yn Lerpwl fe ddychwelodd Alan i ardal Bae Colwyn. Ymgartrefodd ym Metws yn Rhos, lle daw teulu ei wraig yn wreiddiol. Roedd yn hanesydd lleol brwd ac fe ysgrifennodd lyfr am hanes y pentref.
Roedd Alan yn gwybod am deuluoedd o’r ardal a oedd wedi symud i fyw yn sgîl eu swyddi gyda’r gwasanaethau sifil. Bu i un ferch gyda’r cyfenw Roberts o Ben y Bryn, Hen Colwyn gyfarfod â swyddog ac allfudo i’r Unol Daleithiau ar ôl ei briodi. Fe gafodd ei g?r swydd fel twrnai (seneddwr efallai). Ond roedd y symud yn digwydd fel arall hefyd. Bu corfflu o nyrsys Americanaidd yn lletya mewn tai preswyl ger Ysgol Rydal ar Ffordd Conwy. Un o’r pethau cyntaf y dysgon nhw ar ôl cyrraedd oedd sut i osod pebyll ar gae’r ysgol.
Fe gafodd ffrind Alan, John, swydd gyda’r Weinyddiaeth Fwyd hefyd ar ôl iddyn nhw ymweld â’r ysgol. Symudodd John a’i deulu i Guildford, Surrey ar ôl y Rhyfel. Ymgartrefodd yno ond bu’n ymweld â Bae Colwyn yn aml a chadwodd mewn cysylltiad â phobl yr ardal. Bu i lawer o deuluoedd eraill symud o Fae Colwyn i Guildford yn y cyfnod hwnnw am yr un rhesymau.
