Croeso i wefan newydd Grŵp Treftadaeth Bae Colwyn lle cewch wybodaeth am hanes cyfoethog Bae Colwyn. Rydym eisiau hybu treftadaeth Bae Colwyn a sicrhau ei bod ar gael i’r gymuned gyfan. Byddwn yn ychwanegu mwy o erthyglau yn y dyfodol felly dewch i edrych ar y wefan yn aml.
Byddwn yn croesawu eich cyfraniadau hefyd, er enghraifft hen ffotograffau, erthyglau ac atgofion.
Mae hon yn wefan newydd a lansiwyd ym mis Rhagfyr 2011 felly os cewch unrhyw broblemau ar y cychwyn fel hyn hoffem glywed gennych. Byddwn yn parhau i ddatblygu’r wefan felly os oes gennych unrhyw syniadau am bethau yr hoffech eu gweld yma, gadewch i ni wybod.
Os hoffech chwarae rôl weithredol yn y broses o ddatblygu’r wefan rydym yn chwilio am wirfoddolwyr drwy’r amser i ymuno â Grŵp Treftadaeth Bae Colwyn.
Mae’r wefan yn y Gymraeg a’r Saesneg ond mae rhai tudalennau’n aros am gyfieithiad ar hyn o bryd a byddwn yn eu diweddaru gynted ag y gallwn.
Hygyrchedd
Rydym wedi ceisio sicrhau bod y wefan yn hawdd ei hagor i bob defnyddiwr ond os cewch broblemau, cysylltwch.
Mae’r wefan wedi’i llunio i weithio mewn porwyr diweddar ac i allu cael ei defnyddio mewn porwyr hŷn sy’n dyddio yn ôl i Internet Explorer 7. Os byddwch yn cael unrhyw broblemau gyda’r cynllun, ystyriwch ddiweddaru eich porwr i’r fersiwn diweddaraf. Bydd hyn yn rhoi profiad pori gwell i chi ar y wefan hon ac ar wefannau eraill.
Os ydych chi’n lleol ac angen cymorth i fynd i mewn i’r wefan, gallwch gael cymorth yn Llyfrgell Bae Colwyn a gweld y wefan yno am ddim (neu mewn unrhyw lyfrgell arall yng Nghonwy)
