Ebeneser, Eglwys yr Annibynwyr, Hen Golwyn

Eglwys Ebeneser oedd yr eglwys neu gapel cyntaf adeiladwyd yn Hen Golwyn a hynny yn 1815 ar dir a brynwyd ar gost o 100 gini (£105).

Ebenezer Chapel

Dechreuwyd yr achos yn 1804 mewn bwthyn o’r enw Bryn y Gwynt, ar gornel Ffordd Cefn a Ffordd Abergele, gyda phregeth oedd yn ôl bob sôn y bregeth gyntaf i’w phregethu yng Ngholwyn ers y 12fed ganrif.

Yma yng nghapel Ebeneser y cynhaliwyd ysgol gyntaf Hen Golwyn, dan arweiniad y Parchedig David Davies, a ddaeth i’r pentref yn 1828. Addaswyd y capel yn 1848, ac fe’i estynwyd yn 1860 i roi lle i 300 o bobl. Ar yr un pryd fe adeiladwyd tu blaen newydd iddo’n wynebu’r brif ffordd. Yn 1881 fe ail-wampiwyd y capel yn llwyr a chrewyd y tu blaen presennol ar yr un pryd. Ychydig yn ddiweddarach fe godwyd ysgoldy.

Prynwyd tir y tu ôl i’r capel gyda’r bwriad o godi capel newydd, ond ni wireddwyd y bwriad a gwerthwyd y tir yn ddiweddarach ar gyfer adeiladu fflatiau. Yn niwedd yr 1990au, fe symudwyd y cerrig bedd a’u pentyrru yn y fynwent.

Mae cynllun yr adeilad yn un syml gyda waliau chwip (rendr) a tho llechi crib to o fath pengrwn ac aden anghyffredin. Fel llawer o gapeli lleol, mae tu blaen y capel yn ddyluniad cymesur, gyda waliau chwip a cherrig wedi eu paentio o gwmpas y drws a’r ffenestri. Prif nodwedd y tu blaen ydi’r porth â’i bâr o ddrysau paneli pren a ffenestri bwaog yn y waliau ar bob ochr iddo.

ebenezer chapel

Ar dalcen yr adeilad mae plac ac arno’r enw ‘EBENEZER’ a’r dyddiad ‘MDCCCLX’ (1860). Mae’r wal sy’n wynebu Ffordd Albert yn blaen gyda phedwar bae yn cynnwys ffenestri codi ag ochrau chwip llyfn. Mae iard fechan rhwng y capel a’r ysgoldy – sydd wedi ei adeiladu o ddeunyddiau tebyg i’r capel ac yn debyg o ran golwg, â phedwar bae ar ei ochr, tu blaen plaen a chymesur, drws yn y canol a ffenestri bwaog uchel ar bob ochr iddo.

Rhannwch y dudalen hon
Colwyn Bay Heritage Group