Eglwys Fethodistaidd Nant y Glyn, Ffordd Abergele

Roedd mis Medi 1904 yn fis pwysig yn hanes y Wesleaid Saesneg ym Mae Colwyn. Dyna’r mis y daeth nifer fawr o drigolion mwyaf adnabyddus y dref i seremoni gosod carreg sylfaen ar safle eglwys ac ysgoldy newydd ar gornel Ffordd Abergele a lôn Nant y Glyn. Prynwyd y tir yn 1903 ar gost o £950.

Pwrpas codi’r eglwys newydd oedd i ddarparu ar gyfer addolwyr Wesleaidd ym mhen dwyreiniol y dref, a oedd wedi ei ddatblygu’n gyson ers diwedd y 18fed ganrif. Cyn codi’r adeiladau newydd roedd y Wesleaid Saesneg wedi addoli yn yheritage.org.uk/wp-admin/post.p Greenfield a Ffordd Rhiw, neu yn eglwys St. John’s Ffordd Conwy. Er mwyn nodi trosglwyddo’r achos i’r safle newydd hynny fe gafwyd gorymdaith o gynrychiolwyr yr addoldai hynny, gyda Band Arian Bae Colwyn ar y blaen, i’r seremoni yn Nant y Glyn. Gosodwyd ‘blwch amser’ yn cynnwys darnau arian, rhaglen y dydd a chopïau o bapurau newydd lleol o dan y garreg gyntaf. Daeth cannoedd o bobl o gapeli pob enwad yn y dref i’r seremoni.

Mewn cyfarfod cyhoeddus y noson honno yn eglwys St. John’s, fe nododd y Cadeirydd, Mr. Thomas Walker Y.H. (yn y Saesneg) bod y capel newydd “…  efallai ddim mor hardd ag eglwys St. John’s ond yn gweddu’n well i drigolion rhan honno’r dref… yr oedd llawer ohonyn nhw’n bobl dosbarth gweithiol a byddai hi ddim yn gwneud y tro i gael adeilad a oedd yn rhy grand ar eu cyfer. Byddai’r capel a oedd i’w adeiladu yn cwrdd â dyheadau’r boblogaeth o’i gwmpas yn well nag unrhyw beth arall. Roedd wedi ei leoli’n hyfryd a doedd dim modd gwella ar y safle.”

Agorwyd y drysau’n swyddogol ar ddydd Gwener yr 16eg o Fehefin 1905 gan Mrs. John Hammond Hafod Euryn a Mr. George Little, a rhoddwyd y bregeth gan y Parch. John S. Simon, Pennaeth Coleg Diwinyddol Didsbury, Manceinion. Unwaith eto roedd cynrychiolwyr dinesig a chapelig y dref yn bresennol. Wedi i Mr. Little agor drysau’r ysgoldy, fe agorodd Mrs. Hammond ddrysau’r capel. Wrth ddringo ar y stepiau i wneud hynny fe ddywedodd yn y Saesneg mewn llais uchel “Gadewch i ni fynd i mewn i’w byrth ef â diolch, ac i’w gynteddau â mawl.” Roedd y capel yn llawn i’r ymylon yn ystod y gwasanaeth cysegru a ddilynodd ac wedyn cafwyd te bach i oddeutu 200 o bobl yn yr ysgoldy.

Mewn cyfarfod cyhoeddus am 7 o’r gloch y noson honno fe roddodd drysorydd ymddiriedolaeth y capel, Thomas G. Osborne, fanylion y rhoddion a’r digwyddiadau codi arian a oedd wedi helpu talu am yr adeilad newydd, a chyfeiriodd yn benodol at gyfraniadau eglwysi eraill y dref. Fe gyhoeddodd cadeirydd y cyfarfod cyhoeddus, Mr. John Brock Y.H., ei fod o ei hun yn aelod o Eglwys Loegr ac yn dymuno llongyfarch y Wesleaid ar wneud cynnydd mor amlwg ym Mae Colwyn.

Cynhaliwyd bedydd cyntaf y capel newydd, sef bedydd Jessie Eleanor Wiggin-Jones, ym mis Gorffennaf 1905.

Cynhaliwyd digwyddiadau i ddathlu Jiwbili Arian y capel yn 1955 a barodd o ddydd Iau hyd at y Sul dilynol. Ymhlith y rhai a oedd yn dathlu oedd rhai a oedd yn bresennol yn y seremoni agor. Un o’r rhain oedd y Chwaer Ethel Tomkinson, Cenhades a oedd newydd ddychwelyd o’r India, a hi a oedd yng ngofal y te-parti dathlu ar y prynhawn dydd Sadwrn. Yn ei lythyr Saesneg yn gwahodd pobl i’r dathliadau fe nododd y Gweinidog, y Parch. S. J. Dain, “Mae ymdeimlad diolchgar dwys yng ngalon addolwyr presennol Nant y Glyn o’r fraint o gael mynediad i dreftadaeth yr eglwys hyfryd hon. Mae’n ddymuniad gennym ni i anrhydeddu y rhai hynny a roddodd fod i’r eglwys am eu gweledigaeth a’u haberth.”

Cynhaliwyd dathliadau Canmlwyddiant yn 2005 a oedd yn cynnwys dau wasanaeth a recordiwyd gan Radio Wales a’u darlledu ar y 13eg o Chwefror a’r 10fed o Ebrill 2005. Ar ddydd Sul y 12fed o Fehefin, am 3.30 y prynhawn, fe ymgasglodd aelodau’r gynulleidfa ac eraill, rhai mewn gwisg Edwardaidd, y tu allan i hen gapel y Wesleaid Cymraeg yn Ffordd Greenfield ac yna cerdded mewn gorymdaith ar hyd Ffordd Abergele i eglwys Nant y Glyn ar gyfer gwasanaeth dathlu.

Pensaerniaeth

Mae casglaid adeiladau hardd eglwys Nant y Glyn wedi ei adeiladu fel ag y mae, sef heb fod yn sgwâr â Ffordd Abergele a Ffordd Nant y Glyn, er mwyn gwneud y defnydd gorau o’i safle serth.  Mae adeilad yr eglwys a’r neuadd yn ddiddorol o safbwynt pensaernïol ac yn werth eu hastudio’n fanylach. Arthur Brocklehurst o Fanceinion oedd y pensaer ac fe adeiladwyd yr eglwys ar gost o £6,000 gan y cwmni lleol John Tucker & Sons.

Yn gyffredinol fe ellir disgrifio’r adeiladau fel rhai coch. Mae’r toeau o deils coch gyda rhai rhesi o deils siâp i’w gwneud yn fwy diddorol, ac mae’r waliau’n frics coch Rhiwabon gydag ychwanegiadau terracotta i addurno rhesi, ffenestri, rhagfuriau talcen a chapiau bwtres.

Wrth edrych ar yr eglwys o Ffordd Nant y Glyn, sylwch ar yr ysgwyddfeini sy’n dal y landars, y moldio cwflog ar y ffenestri bwaog a’r peipiau landar sgwar. Mae’r wal sy’n wynebu Ffordd Nant y Glyn wedi ei rhannu’n gilfachau gan fwtresi ac mae cwareli’r ffenestri naill ai o gwydr lliw neu wedi eu cynnal gan ddellt.

Mae’r wal sy’n wynebu Ffordd Abergele yn codi’n uchel uwchben y ffordd. Y prif nodweddion i’w sylwi yno ar y talcen amlwg ydi’r porth sy’n sefyll allan o’r wal gyda pharau o ffenestri ar ei ddwy ochr, y ffenestr fawr uwchben y porth â’i ffram terracotta, a’r bwtresi sy’n cynnal y dalcen ac sydd wedi eu capio â thopwaith addurniadol. Mae rhan ganol y talcen yn gogwyddo yn ei flaen fymryn er mwyn peri iddo edrych yn ddyfnach ac yn fwy diddorol ac i greu cysgodion ychwanegol.

Mae’r prif fynediad at yr eglwys yn arwain o gornel Ffordd Abergele a Ffordd Nant y Glyn o giatiau addurniedig rhwng plieri calchfaen ac i fyny cyfres o risiau. Mae’r wal uchel ar hyd ochr Ffordd Abergele yn cuddio rhan sylweddol o ochr yr eglwys. Ac mae mynediad arall yr un mor drawiadol ym mhen dwyreiniol yr eglwys ar y ffordd fawr.

Wrth ddychwelyd at Ffordd Nant y Glyn rydym ni’n dod at neuadd yr eglwys. Mae’r adeilad wedi ei adeiladu o’r un deunyddiau ac wedi ei chyflwyno yn yr un modd â’r eglwys gyda’i fynediad ei hun yn cynnwys giatiau a phileri.

Mae gan y cyswllt rhwng yr eglwys a’r neuadd ddrws hardd â thair ffenestr bob ochr iddi. Ac yn yr un modd â’r eglwys mae bwtresi’n rhannu ei waliau ochr yn gilfachau.

Mae t? hefyd yn y cefn a oedd, yn ôl pob golwg, yn perthyn gynt i adeiladau’r eglwys.

Mae nodweddion gwreiddiol yr eglwys a’r neuadd wedi goroesi’n syndod o dda. Maen nhw’n amlwg wedi eu hadeiladu i safon uchel ar gynllun o safon uchel sydd yn gwneud y defnydd gorau posib o’r allt y maen nhw wedi eu codi arni.

Rhannwch y dudalen hon
Colwyn Bay Heritage Group