Hen Sinema’r Supreme, Stryd yr Orsaf, Hen Golwyn

Roedd gan ail sinema’r pentref, y ‘Supreme’, 600 o seti a dau focs moethus. Fe’i adeiladwyd yn 1922 a thalwyd amdano o gyfraniadau a rhoddion. Roedd matinee bore dydd Sadwrn yn boblogaidd iawn ymysg plant y pentref. Caewyd y sinema yn y 1950au yn dilyn dyfodiad y teledu. Cafodd ei ddefnyddio wedyn gan gwmni Industrial Engraving. Yn 1973 fe ddaeth yn siop Kwik Save. Erbyn hyn mae’n siop Co-op.

Rhannwch y dudalen hon
Colwyn Bay Heritage Group