Agorwyd Gwesty Bae Colwyn gan y diwydianwyr Brown a Drury o Swydd Gaerhirfryn yn 1871. Erbyn 1897 roedd darpar westeion yn cael eu gwahodd i fwynhau baddonau d?r môr a manteisio ar y gwasanaethau fel yr “hotel porters, in scarlet uniform, who attend the trains, and remove luggage to and from the hotel”.
Os nad oedd hyn yn ddigon i’ch denu i aros yna efallai y byddai’r llinell olaf: “Colwyn Bay is strongly recommended by eminent medical men for the mildness and dryness of its climate”. Yn 1927 cafodd y gwesty ei phrynu gan gwmni yn seiliedig yn Gaer, Quellyn Roberts & Co Ltd.

Roedd gan Gwesty Bae Colwyn 92 ystafell wely a 365 o ffenestri – un ar gyfer pob diwrnod o’r flwyddyn. Ymhlith y llawer o westeion enwog i aros yno roedd Madame Adelina Patti a ganodd yng nghyngerdd agoriadol Pafiliwn y Pier yn 1900, y ddawnswraig Anna Pavlova, David Lloyd George, y peilot Amy Johnson a’r actor Cary Grant.
Yn ystod yr Ail Rhyfel Byd daeth y gwesty yn bencadlys cenedlaethol y Weinyddiaeth Fwyd ac yn un o 38 o adeiladau a gymerwyd drosodd gan y Weinyddiaeth fel swyddfeydd a llety. Cafodd y system dogni bwyd gyfan ei drefnu o Fae Colwyn. Cafodd system cennad argyfwng y Weinyddiaeth ar ffurf llofft colomennod ei adeiladu yn y gwesty. Er bod rhannau o’r Weinyddiaeth wedi aros ym Mae Colwyn tan mor ddiweddar â 1956, roedd Gwesty Bae Colwyn yn barod i ail-agor fel gwesty unwaith eto yn 1952.
Wedi sefyll yn wag a dim prynwr ar gael, cafodd Gwesty Bae Colwyn, oedd wedi sefyll mor falch ar yr arfordir ers dros ganrif, ei dymchwel ym mis Medi 1975.
Cafodd Princess Court ei adeiladu ar safle Gwesty Bae Colwyn. Cafodd yr adeilad yma o 128 o fflatiau ymddeol ei agor yn 1990.
Cafodd yr enw ei glywed eto pan newidiwyd enw Gwesty’r 70 Degrees ar Penmaenhead i “Colwyn Bay Hotel”. Mae’r gwesty yma hefyd wedi ei dymchwel erbyn hyn.

Cyhoeddwyd yr erthygl yma yn llyfr Eunice Roberts a Helen Morley “The Spirit of Colwyn Bay: 1” ac fe’i hatgynhyrchir yma gyda’u caniatâd caredig.
