Dechreuodd y gwaith o adeiladu’r theatr ym 1885 gan Gwmni’r Neuadd Gyhoeddus, cwmni newydd ei sefydlu ar y pryd. Y grŵp cyntaf i’w cofnodi’n defnyddio’r neuadd oedd cynulleidfa Eglwys Sant Paul, gan fod eu heglwys haearn wedi mynd ar dân. Bu’r cyfeillion yn cynnal gwasanaethau yn yr adeilad tan 1888. Fe ddefnyddiwyd y theatr ar gyfer amryw o ddigwyddiadau eraill hefyd fel dawnsiau milwrol mawreddog dan ofal Ffiwsilwyr Brenhinol Cymru, Ralïau Gwleidyddol, Sioeau Cysgodluniau a Darlithoedd gyda lluniau. Roedd hi’n bosib gweld dramâu o’r West End yn Llundain yn y theatr ar ôl 1901 hefyd. At hyn roedd y Neuadd Gyhoeddus yn wyneb ‘cyhoeddus’ i Sefydliad y Congo byd enwog gerllaw. Roedd sylfaenydd y Sefydliad, y Parchedig William Hughes yn weinidog ar yr Eglwys Bedyddwyr Cymraeg Bae Colwyn sy’n dal i sefyll heddiw. Mae’r Eglwys dafliad carreg o Theatr Colwyn.
Yn ystod degawd cyntaf yr ugeinfed ganrif bu’r perfformiwr a’r impresario Harry Reynolds yn rheoli’r neuadd. Roedd Harry yn wyneb cyfarwydd ym Mae Colwyn yn barod a hynny oherwydd ei grŵp clera o’r enw’r ‘Serenaders’. Erbyn mis Ionawr 1909 roedd wedi newid y Neuadd Gyhoeddus i fod yn ‘bictiwrs’ cyntaf Bae Colwyn gan ychwanegu golau trydan ac awditoriwm modern. Ef oedd un o’r bobl gyntaf i dderbyn trwydded i ddangos ffilmiau.
Ar Ionawr y 25ain 1909 bu i Harry Reynolds ddangos nifer o ffilmiau byrion o dan yr enw ‘Harry Reynolds Unrivalled Animated Pictures.’ Ymysg y ffilmiau hynny roedd ‘A Fairy Godmother’, ‘A Bad Pinch of Snuff’, ‘Lady Jane’s Flight’ a ‘The Misdeeds of a Sack of Coal’. Roedd tocynnau i wylio’r ffilmiau yn y seddau codi newydd sbon yn un swllt a’r seddau rhatach yn chwe cheiniog a thair ceiniog. Felly Theatr Colwyn ydi’r sinema hynaf un sy’n dal ar agor ym Mhrydain a hithau’n dangos ffilmiau ers 102 o flynyddoedd. Bu Reynolds yn rheoli’r sinema am rhai blynyddoedd a bu’n perfformio gyda’i glerwyr ar ddiwrnodau gwlyb. Fe werthodd y busnes i Coastal Cinemas ym 1922 a bu iddyn nhwythau newid yr enw i’r ‘Rialto’.
Yn anffodus doedd dyfodiad y “talkies” hyd yn oed ddim yn ddigon i achub y busnes ac fe gaewyd y theatr ym 1930. Yna bu trychineb wrth i dân ddinistrio to’r adeilad gan achosi iddo ddymchwel i mewn i’r awditoriwm. Gosodwyd llwyfan a tho ym 1936 ac fe ail-agorwyd y theatr dan yr enw ‘The New Rialto Repertory Theatre’ o dan arweiniad yr actor/rheolwr Stanley Ravenscroft. Roedd yn bwriadu rhentu’r adeilad am 9 wythnos i gychwyn ond fe arhosodd yno am ddwy flynedd ar hugain!
Mae Stanley Ravenscroft yn dipyn o ddraenen yn ystlys y rheini sy’n ceisio ymchwilio i hanes y theatr. Dydyn ni ddim yn gwybod rhyw lawer amdano, ac nid oedd llawer o’r bobl a fu’n gweithio gydag o yn ystod y ddau ddegawd yn y theatr yn gwybod rhyw lawer amdano chwaith. Roedd yn gymeriad hynod enigmatig a oedd yn byw gyda’i gath ddu mewn fflat uwchben yr awditoriwm. Fe greodd gwmni theatr a enillodd y fath fri fel y bu i Gwmni’r Old Vic i gyd o dan arweiniad y fonesig Sybil Thorndike, boneddiges fwyaf y theatr Brydeinig ddod i wylio’u perfformiadau.
Daeth llwyddiant mawr i ran nifer o actorion a fu’n gweithio yn ‘Y Rep’ fel y gelwid hi bryd hynny. Patrick Desmond oedd yr un a ddaliodd sylw ar ddawn y dramodydd John Osborne a bu i Pauline Jameson dderbyn cynnig i berfformio mewn sioe yn y West End wedi i rywun ei gweld hi’n perfformio ym Mae Colwyn. Bu iddi ddod yn ffrindiau pennaf gyda sêr y byd theatr fel Y Fonesig Peggy Ashcroft, Vivien Leigh a Laurence Olivier. Cafodd Pauline ei henwi yn un o brif actorion clasurol ei chenhedlaeth.
Bu i boblogaeth Bae Colwyn gynyddu’n aruthrol yn ystod yr Ail Ryfel Byd pan ddaeth miloedd o weithwyr y Weinyddiaeth Fwyd i fyw i’r dref. Bu tyrrau o bobl yn dod i weld y sioeau yn ‘Y Rep’ gyda’r galw’n fwy nac erioed o’r blaen. Jack Howarth oedd y rheolwr llwyfan ar y pryd, y g?r a aeth rhagddo ymhen amser i chwarae’r enwog Albert Tatlock yn Coronation Street.

Fe adawodd Ravenscroft y busnes theatr ym 1951 oherwydd salwch a bu’r adeilad yn wag nes i’r cyngor ei brynu ym 1959. Fe’i ail-enwyd yn “The Prince of Wales”. Daeth cwmni newydd yno i berfformio dan arweiniad George Hastings, y rheolwr theatr adnabyddus o Lundain. Roedd y theatr yn llwyddiant ysgubol unwaith eto gyda chyfanswm anhygoel o 33,000 yn heidio i weld y sioeau yn ystod ychydig fisoedd! Dros y pedwar degawd nesaf bu i’r rep ymddangos sawl gwaith ar raglen y theatr. Yn ystod un tymor bu perfformiadau gan actor anadnabyddus ar y pryd o’r enw Charles Dance!
Fel rhan o gynllun i foderneiddio’r theatr fe newidiwyd yr enw eto ym 1991 i Theatr Colwyn. Pum mlynedd yn ddiweddarach ffurfiwyd Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy a bu iddyn nhwythau gymryd yr awenau. Mae sinema wedi ymddangos yn y theatr unwaith eto ers hynny ac mae’r trigolion wrth eu bodd yn dod i wylio ffilmiau a sioeau yno. Mae modd gweld ffilmiau, sioeau byw, cynyrchiadau drama, dawnsfeydd, gigiau, sioeau cerdd, theatr i actorion llai profiadol a sioeau ysgolion. Erbyn hyn mae stiwdio recordio boblogaidd ac ystafell ymarfer i fandiau yn Theatr Colwyn.
Gan Roy Schofield a Joann Rae
