Mae Grŵp Treftadaeth Bae Colwyn yn falch o gyhoeddi lansio ei eLyfr cyntaf – Atgofion o’r Pier. Fel mae’r teitl yn egluro, mae’n gasgliad o atgofion pobl am y pier ar draws y blynyddoedd – o fynychu’r diwrnodiau gwobrwyo ysgol i’r noson gyntaf allan a arweiniodd at briodas.
Casglwyd yr atgofion gan awdur lleol ac aelod o’r grŵp Cindy Lowe (“Colwyn Bay Accredited” a “To Where We Once Belonged: Colwyn Bay Revisited”) gyda chefnogaeth aelodau eraill y grŵp. Mae’r eLyfr nawr ar werth ar wefan Amazon. Cyfrannwyd y rhagair gan hen ffrind ysgol i Cindy – Darlah Thomas, awdur “The Piers of Wales”.
Bydd yr eLyfr ar gael yn rhad ac am ddim mewn fformat PDF i bawb sydd wedi cyfrannu atgofion.
Mae gwefan poblogaidd y Grŵp Treftadaeth hefyd wedi’i ddiweddaru i adlewyrchu’r defnydd cynyddol o dabledi a ffonau symudol i edrych ar y rhyngrwyd. Cafodd y gwaith ei ariannu a’i gefnogi gan Fenter Treftadaeth Treflun Bae Colwyn. Fe ail-gynlluniwyd y wefan gan gwmni Colony of Ants, sydd hefyd wedi datblygu nodwedd newydd sbon ar gyfer 2016 – llinell amser o hanes y dref a’r ardal gyfagos.
Byddem yn falch iawn o glywed gan unrhyw un a all ein helpu gyda mwy o wybodaeth ar gyfer y llinell amser ynghyd ag awgrymiadau am eLyfrau o atgofion eraill.
Mae’r Grŵp Treftadaeth hefyd yn cael hwyl dda gyda’r gwaith o baratoi’r llyfryn llwybr treftadaeth nesaf – Hen Golwyn – a fydd ar gael yn fuan.
I ddarganfod mwy am Grŵp Treftadaeth Bae Colwyn ewch i’n gwefan, tudalennau Facebook neu Twitter neu cysylltwch â ni drwy ein tudalen cyswllt yma.
