Pier Fictoria

Trafodwyd dyfodol Pier Victoria Bae Colwyn gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy heddiw [12/12/13].

Cyflwynwyd adroddiad i’r Cyngor llawn, a gofynnwyd i’r Aelodau ystyried nifer o opsiynau mewn perthynas â dyfodol y Pier.

Yn dilyn trafodaeth o ddwy awr, pleidleisiodd y Cynghorwyr dros Opsiwn 1 sef mynd ati i ddadrestru a dymchwel y pier.

Dywedodd y Cynghorydd Phil Edwards, yr Aelod Cabinet dros Gymunedau a Chadeirydd Bwrdd Prosiect Pier Victoria: “Darparwyd adroddiad cynhwysfawr i’r Aelodau, a oedd yn cynnwys yr holl opsiynau posibl. Yn dilyn trafodaeth faith a manwl, penderfynodd mwyafrif yr Aelodau mai’r dewis mwyaf diogel a fyddai’n peri’r risg lleiaf i drigolion Bwrdeistref Sirol Conwy, fyddai dadrestru a dymchwel y pier. Bydd y penderfyniad hwn wedi bod yn un anodd i lawer o Aelodau, ond fel Cadeirydd y Bwrdd, roedd yn bwysig ein bod yn cael cyfarwyddyd gan y Cyngor llawn heddiw. “

Nodiadau

Roedd yr adroddiad manwl yn cyflwyno chwe opsiwn, yn amrywio o ‘wneud dim’ hyd at ailddatblygu llawn ar gost o £16m.

Ceisio dadrestru a dymchwel y pier cyfan

Cael gwared ar y ddau bafiliwn a diwedd pier ac adnewyddu llawr pren y pier

Fel 2. yn ogystal ag ailddatblygu’r prif bafiliwn

Ailddatblygu ac adnewyddu’r pier, yn unol â’r cais i Gronfa Dreftadaeth y Loteri.

Fel 2. yn ogystal â datblygu nifer o ‘unedau consesiwn’ yn ardal mynedfa’r pafiliwn.

Gwneud Dim

Roedd pob opsiwn wedi cael eu gwerthuso a’u costio, fel bod y Cynghorwyr yn llwyr ymwybodol o oblygiadau tymor hir y penderfyniad terfynol i Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy ac i drethdalwr Conwy.

Datganiad i’r wasg gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy wedi ei gynnwys yma gyda chaniatâd.

pier 2013

Llun: GTBC.

Rhannwch y dudalen hon
Colwyn Bay Heritage Group