Stanley Ravenscroft

Ym mhapur newydd y Pioneer ar Hydref y 29ain 1936 roedd hysbyseb gan theatr newydd y Rialto. Roedd yn darllen fel hyn. “Bydd Cwmni Theatr Stanley Ravenscroft yn perfformio cyfres o ddramâu a chomedïau am gyfnod byr o naw wythnos.”

Cychwynnodd y gyfres ymhen ychydig ddyddiau ar Dachwedd yr 2il gyda ‘Full House’ – comedi poblogaidd y dramodydd Cymreig Ivor Novello (Digwydd bod, roedd mam a llyschwaer Novello wedi perfformio ar yr union lwyfan bron i 36 o flynyddoedd yn ôl.)

Bu’r tymor cyntaf mor llwyddiannus nes i’r theatr ddod i gytundeb anffurfiol gyda Ravenscroft a’i Gwmni y caen nhw barhau i berfformio yn y theatr. Fe barhaodd y ‘cytundeb’ tan hydref 1958.

Bu i gyn-aelodau Cwmni Ravenscroft ddweud bod y ‘Bos’ fel y’i gelwid o wedi rhoi’i fywyd i’r theatr. Bu’n byw ar ei ben ei hun mewn fflat ar lawr uchaf yr adeilad ond roedd yn treulio llawer iawn o amser yn Brighton yn chwilio am actorion ar gyfer Bae Colwyn. Roedd Ravenscroft wastad yn drwsiadus ei wisg ac fe’i gwelwyd o’n aml gyda sigarét yn ei geg. Roedd y rheini a fu’n gweithio gydag o ym Mae Colwyn yn ei ddisgrifio fel ‘g?r bonheddig o’r hen fath theatraidd.’

Bu’r cwmni’n perfformio drwy gydol y flwyddyn ar y dechrau ond erbyn y 1950au cynnar roedd llai a llai yn dod i wylio’r sioeau. Penderfynwyd perfformio sioeau pob tymor yn unig. Yna, ym 1958 fe ddywedodd Ravenscroft ei fod yn ymddeol oherwydd salwch ac yn terfynu’r cwmni hefyd. Fe adawodd ei fflat uwchben y theatr ac aeth i fyw mewn fflat heibio i’r tro ar Ffordd Rhiw.

Bu farw yn 77 oed ar Fai’r 27ain 1960. Mae staff presennol y theatr yn credu fod ysbryd Mr Ravenscroft yn dal i gerdded yr adeilad, yn cadw llygad ar y lle oedd yn agos iawn at ei galon.

Gan Roy Schofield – hanesydd ar gyfer Theatr Colwyn

Rhannwch y dudalen hon
Colwyn Bay Heritage Group