Wedi’i adeiladu yn 1870, mae’r bensaernïaeth Gothig a’r defnydd o galchfaen lleol yn enghraifft o’r cyfnod cynnar yn natblygiad y dref. Mae nodweddion o’r fath yn brin iawn erbyn hyn. Enw gwreiddiol yr adeilad oedd Gwesty’r Orsaf, neu’r ‘Station Hotel’ a byddai modd ei weld o’r orsaf reilffordd, nad oedd ond cae agored rhyngddyn nhw.
Cafodd olau stryd nwy, a gyflwynwyd gan John Porter, prif bensaer y dref, ei osod ar ben Ffordd yr Orsaf. Roedd y lamp a Gwesty’r Orsaf ar yr Arolwg Ordnans cyntaf yn 1875.

