Y Llyfrgell, Ffordd Coetir Orllewinol

Y Llyfrgell

Agorodd Llyfrgell Rad y Coroni (neu’r Coronation Free Library) ym mis Ebrill 1905 i ddathlu coroni’r Brenin Edward VII (Awst 9fed 1902). Daeth y syniad o gyfarfod yn y dref ar Ebrill yr 11eg 1902. Talwyd am y tir a’r adeilad drwy danysgrifiad cyhoeddus, gyda’r dyngarwr adnabyddus Andrew Carnegie yn cyfrannu £3,800. Mae plac yn dynodi agoriad y llyfrgell ynghyd â phortread o gadeirydd y Pwyllgor Gwaith, Parch Thomas Parry, yn y llyfrgell.

Agorwyd llyfrgell y plant yn 1933 a’r llyfrgell gyfeiriol Gymraeg yn 1949, wedi iddynt dderbyn cyfraniad o’r elw a wnaed gan yr Eisteddfod Genedlaethol a gynhaliwyd yn y dref yn 1947. Roedd y gatiau haearn gyr sydd wrth brif fynedfa Parc Eirias hefyd yn rhodd i’r dref gan yr Eisteddfod.

Rhannwch y dudalen hon
Colwyn Bay Heritage Group