Coleg Weiarles

wireless college ad

Agorodd Gordon Scott Whale Coleg Weiarles Gogledd Cymru yng Nghaernarfon yn 1918, ar ôl cael ei hyfforddi gyda Chwmni Direct Spanish Telegraph a gweithio i Gwmni Wireless Telegraph Marconi.

Yn 1920 cafodd y coleg ei ail-leoli i Bae Colwyn Uchaf ac yna i’r cartref mwy cyfarwydd ar East Parade yn ystod yr haf yn 1923. Erbyn 1930 parhaodd y twf yn nifer y myfyrwyr ac fe gyflogwyd Harry Nelson fel ail hyfforddwr, yn ymuno a Charles Oliver a oedd wedi bod yn diwtor yn y coleg ers 1926.

wireless college

Ymddeolodd Gordon Whale yn 1935 gan adael y coleg yn nwylo galluog Mr. Nelson a Mr. Oliver ond bu iddo ddychwelyd yn 1940 pan ddaeth y coleg yn sefydliad hyfforddiant pwysig yn ystod y rhyfel ac roedd yn gyfrifol am droi allan nifer sylweddol o Weithredwyr Radio, llawer yn anffodus a gollodd eu bywydau ar y môr. Wedi bod yn gyfrifol am hyfforddiant Morse Swyddogion Radio di-ri ar draws y blynyddoedd, ymddeolodd Harry Nelson yng Ngorffennaf 1966 ar ôl tri deg saith o flynyddoedd o wasanaeth ymroddedig i’r coleg, ei lysenw annwyl gan y myfyrwyr yn y coleg oedd “Tubby”.

Neville Whale, mab y sylfaenydd, oedd pennaeth y coleg o 1966. Caeodd y coleg yn 1970, cafodd yr adeilad ei ddymchwel pan adeiladwyd Gwibffordd yr A55.

wireless college grounds

Yn ddiweddar mae gwefan y Coleg Weiarles wedi aduno llawer o gyn-fyfyrwyr, gan arwain at aduniadau blynyddol poblogaidd yn cael eu cynnal ers 2002. Mae cyn-fyfyrwyr wedi cael eu darganfod yn byw yn Ffrainc, Iwerddon, UDA, Seland Newydd, Awstralia, Kathmandu, Alaska, Canada, Trinidad, Nigeria, Nepal, Periw, Awstria a Sbaen, mae ceisio cysylltu â myfyrwyr eraill yn parhau. Mae gan wefan y Coleg Weiarles gasgliad mawr o luniau o’r coleg, y staff a’r myfyrwyr. Ym mis Mawrth 2007 cafodd y plac ei ddadorchuddio i nodi safle’r Coleg Weiarles.

LOGOS for Eirias ParkTrail_edited-1

Rhannwch y dudalen hon
Colwyn Bay Heritage Group