Adeiladau Penrhyn

Roedd stiwdio gudd gan y BBC ar lawr cyntaf yr adeiladau yma, rhag ofn y byddai’r Almaen yn goresgyn Prydain yn yr Ail Ryfel Byd. Petai argyfwng byddai’r stiwdio’n cael ei chysylltu gydag un o drosglwyddwyr symudol y BBC, gydag aerial wedi’i guddio yn y to.

Ail-ddarganfuwyd y stiwdio yn 1969, pan logodd y Rhyddfrydwyr lleol yr ystafell fel swyddfa ar gyfer ymgyrch etholiadol 1970. Roedd y meicroffon yn dal i hongian o’r nenfwd.

Sylwch ar ffenestri crwm rhai o’r siopau – mae hyn yn nodweddiadol o nifer o siopau cynnar y dref.

Penrhyn Buildings

Rhannwch y dudalen hon
Colwyn Bay Heritage Group