Cyflwynwyd y cloc i’r dref yn 1989 gan rieni Andrew Fraser er cof am eu mab. Ganwyd Andrew yn y dref yn 1950 a bu farw ym Mrwsel yn 1984. Adeiladwyd y cloc gan y cwmni adnabyddus ac uchel eu parch, J. B. Joyce and Co. o’r Eglwys Wen, Sir Amwythig. Ar y cloc hefyd mae plac er cof am Peter Bellingham o’r Eglwys Wen a fu farw wrth osod y cloc. Pob blwyddyn dros gyfnod y Nadolig mae’r cloc unigryw yn canu detholiad o garolau pob chwarter awr.

