Fe ail-luniwyd yr adeilad Banc Brenhinol yr Alban o gwmpas 1925 i gynllun gan y pensaer Sidney Colwyn Foulkes i Fanc Williams Deacon, fel y gwelir yma. Yna newidiwyd yr enw i Fanc Williams a Glyn, cyn dod yn gangen o Fanc Brenhinol yr Alban. Ar ddechrau’r 20fed ganrif roedd yr arddull Neo-glasurol yn boblogaidd iawn ar gyfer banciau. Gellir weld llinellau tram yng nghongl dde y llun.

